Hannah Höch
Hannah Höch | |
---|---|
Ffugenw | Höch, Hannah |
Ganwyd | Anna Therese Johanne Höch 1 Tachwedd 1889 Gotha |
Bu farw | 31 Mai 1978 Gorllewin Berlin |
Dinasyddiaeth | Gorllewin yr Almaen, Ymerodraeth yr Almaen |
Galwedigaeth | ffotograffydd, arlunydd, drafftsmon, arlunydd graffig, gludweithiwr, arlunydd |
Arddull | ffotogyfosodiad, portread |
Mudiad | Dada |
Roedd Hannah Höch (1 Tachwedd 1889 – 31 Mai 1978) yn artist ac mae hi heddiw yn cael ei chfyrif fel eicon ffeministaidd.[1] Fel rhan o grŵp o arlunwyr Dada yn Berlin yn y 1920au creodd Höch nifer o weithiau ffoto-montage arloesol.
Roedd Dada yn fudiad celfyddydol avant-garde Ewropeaidd ar ddechrau'r 20 ganrif fel ymateb yn erbyn erchylltra a gwallgofrwydd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Wedi'i dylanwadu gan waith collage Pablo Picasso a'r Dadawr Kurt Schwitters torrodd hi ddelweddau o hysbysebion a lluniau o gylchgronau a phapurau newydd a gludodd i greu montage.
Roedd cyfuniad y delweddau gwahanol yn cyfleu adlewyrchiad beirniadol o gyfryngau torfol a'r ffordd roeddent portreadi statws merched a delfrydau hyfrydwch. Mae gwaith fel Das schöne Mädchen (Y ferch hyfryd) o 1920 yn cael ei ystyri fel gwaith ffeministaidd arloesol.
Roedd y grŵp o arlunwyr Berlin roedd hi'n rhan ohono hefyd yn cynnwys John Heartfield, George Grosz ac Otto Dix. Daeth ddynion y grŵp yn enwog ond ni chafodd Höch yr un sylw tan lawer o flynyddoedd wedyn [2][3]
Am gyfnod roedd Höch yn gymar i'r arlunydd Dada Raoul Haussman. Roedd eu perthynas yn gythryblus gyda Haussman yn gwrthod gadael ei wraig am Höch gan alw dymuniad Höch i briodi yn syniad bourgeois. Roedd Haussman hefyd yn feirniadol o waith Höch. Ym 1922 dechreuodd perthynas gyda'r ysgrifennwr Mathilda ('Til') Brugman, y ddwy yn cyd-fyw am naw mlynedd.[4]
Ym 1935, dechreuodd Höch perthynas gyda Kurt Matthies, ac roedd y pâr yn briod rhwyg 1938 a 1944. Cafodd gwaith Höch ei gondemnio fel Entartete Kunst ('celf ddirywiedig') gan y Natsïaid a'i atal rhag ei arddangos yn gyhoeddus. Roedd y ffaith nad oedd ei gwaith wedi cael fawr o sylw yn fantais iddi beidio cael ei herlyn yn fwy gan y Natsïaid.[1]
Cafodd ei gwaith mwy o sylw wedi'r ail ryfel byd a daliodd ati'n creu gwaith ffoto-montage ac yn arddangos o amgylch y byd nes iddi farw ym 1978 yn 88 oed.
-
Nelly van Doesburg, Piet Mondrian ac Hanna Höch yn stiwdio Theo van Doesburg
-
Ffoto o Hannah Höch yn 1974
-
Plac yn Berlin er cof am Hannah Höch
-
Llyfr cyfeiriadau 1917-78 Hannah Höch
DADA DADAHIER DADADA -
Cofeb Hannah Höch, ar lan llyn Tegel, Berlin
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Hannah Höch, Cut with the Kitchen Knife, 1919-20 ffilm ar YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=9E1cA3j_xY8
- Dada
- Frida Kahlo
- Arlunydd
- Rhestr o ferched yn y Bywgraffiadur Cymreig
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Dillon, Brian (2014-01-09). "Hannah Höch: art's original punk". The Guardian. ISSN 0261-3077. Retrieved 2016-03-04.
- ↑ https://www.artsy.net/artist/hannah-hoch
- ↑ http://www.theartstory.org/artist-hoch-hannah.htm
- ↑ Makela, Maria (1997). von Ankum, Katharina, ed. Women in the Metropolis: Gender and Modernity in Weimar Culture. Berkeley: University of California Press. pp. 119–121.
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan biography.com Archifwyd 2019-04-23 yn y Peiriant Wayback