Homograffeg
Mewn geometreg dafluniol mae homograffeg (hefyd trawsffurfiad tafluniol neu unlluniad tafluniol) yn isomorffedd o'r gofod fector, a anwythwyd gan isomorffedd o'r gofod fector o ba le y tardd y gofod tafluniol. Hwn yw'r deudafl (bijection) sy'n mapio llinellau i linellau eraill, ac felly yn "unlliniad" (collineation).[1] Yn gyffredinol, nid yw pob unlluniad yn homograffig, ond mae theori sylfaenol geometreg dafluniol yn datgan nad yw hynny'n wir o ran taflunio gofod real dau neu fwy dimensiwn.
Yn hanesyddol, cyflwynwyd homograffegau a gofodau tafluniol yn un pwrpas er mwyn astudio perspectif a thaflunio gofod Euclidaidd; yn wir, mae'r term "homograffi" ei hun yn deillio o'r cyfnod hwn ac o ran geirdarddiad yn golygu "llun (neu luniad) tebyg". Ar ddiwedd y 19g, cyflwynwyd diffiniadau ffurfiol o ofod tafluniol, a oedd yn wahanol i ofod Ewclidig a gofod affin gan eu bod yn ychwanegu "pwyntiau anfeidredd".[2] Y lluniadau haniaethol hyn oedd sail y term newydd "trawsffurfiad tafluniol"; ceir dau ddosbarth ohonynt, dau ddosbarth hafal i'w gilydd:
1. Gellir llunio gofod tafluniol fel set o linellau'r gofod fector dros faes penodol. Mae'r diffiniad ar ddechrau'r erthygl hon wedi'i seilio ar y gosodiad yma. Mae hyn yn caniatáu i'r mathemategydd i ddefnyddio algebra llinol ar gyfer astudio homograffegau.
2. Mae'r ail ddull yn cynnwys diffinio'r gofod tafluniol trwy set o wirebau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faes. Yn y cyd-destyn hwn, mae'n haws diffinio unlliniadau nag yw i ddiffinio homograffegau, ac felly mae homograffeg, yn aml yn cael ei ddiffinio gan unlluniadau penodol a elwir yn "unlluniadau tafluniol".
Cymhareb draws
[golygu | golygu cod]Mae cymhareb draws y 4 pwynt unllin yn sefydlyn (invariant) yn yr homograffeg sy'n ffwndamental i'r astudiaeth o homograffeg y llinellau.
Mae'r tri pwynt a, b ac c ar linell dafluniol dros faes F yn ffurfio ffrâm dafluniol o'r linell hon. Ceir felly homograffeg unigryw h o'r linell hon i F ∪ ∞ sy'n mapio a i ∞, b ac i 0, ac c i 1. O bennu 4ydd pwynt ar yr un llinell, cymhareb draws y 4 pwynt a, b, c a d, a ddynodir [a, b; c, d], yw'r elfen h(d) o F ∪ ∞. Mewn geiriau eraill, os oes gan d gyfesurynnau homogenaidd [k : 1] dros y ffrâm dafluniol (a, b, c), yna:
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Yale 1968, p. 244, Baer 2005, p. 50, Artin 1957, p. 88
- ↑ Meserve 1983, pp. 43–4
- ↑ Berger, chapter 6
- ↑ Gweler: Baer 2005, p. 76