Holt
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,521, 1,554 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,715.05 ha |
Gerllaw | Afon Dyfrdwy |
Yn ffinio gyda | Rhedynfre |
Cyfesurynnau | 53.0754°N 2.8896°W |
Cod SYG | W04000897 |
Cod OS | SJ409539 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Lesley Griffiths (Llafur) |
AS/au y DU | Andrew Ranger (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Holt[1][2] ("Yr Holt" yn 1566).[3] Saif ar Afon Dyfrdwy. Mae Caerdydd 180 milltir i ffwrdd o Holt ac mae Llundain tua 190.
Ceir croes farchnad ganoloesol yng nghanol y pentref a chofrestrwyd Eglwys Sant Chad yn Gradd I gan Cadw ers 17 Gorffennaf 1996.[4]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lesley Griffiths (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Andrew Ranger (Llafur).[5][6]
Hynafiaethau
[golygu | golygu cod]Bovium
[golygu | golygu cod]- Prif: Bovium
Yn y cyfnod Rhufeinig, roedd Holt yn safle o bwys. Lleolwyd gweithfa lleng caer Rufeinig Deva (Caer) yn Holt (Bovium), lle cynhyrchid crochenwaith a theiliau at ddefnydd miwrol a sifil. Gorwedd y safel ar lan orllewinol afon Dyfrdwy ger y pentref. O bryd i'w gilydd mae darnau o grochenwaith yn cael eu darganfod o hyd wrth droi'r caeau.
Castell Holt
[golygu | golygu cod]- Prif: Castell Holt
Codwyd castell ar gynllun pentagonaidd gyda thŵr ar bob cornel gan yr arglwydd lleol John de Warenne, arglwydd Brwmffild a Iâl, a dderbyniodd ei dir gan Edward I o Loegr ar ôl 1282. Roedd Castell Holt yn adfail erbyn y 17g; y cwbl a erys heddiw yw rhannau isel muriau'r gorthwr mewnol, porth a grisiau. Cafodd gweddill yr adfeilion ei symud ar gychod i lawr afon Dyfrdwy ar ôl gwarchae yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr a'u defnyddio at adeiladau Neuadd Eaton.
Eglwys Sant Chad
[golygu | golygu cod]Mae rhannau o Eglwys Sant Chad yn dyddio i'r 15g a'r 17g a chofrestwryd hi yn Gradd I gan Cadw ers 17 Gorffennaf 1996. Ceir motiffau ar y fedyddfaen sy'n cynrychioli Harri Tudur a theulu'r Stanleys a wnaed tua 1483.
-
Y fedyddfaen.
-
Rhosyn Harri Tudur
Pont Rhedynfre
[golygu | golygu cod]- Prif: Pont Rhedynfre
Yr enw Cymraeg ar y bont yw 'Pont Rhedynfre' neu 'Bont Holt', sef y pentref ar ochr Cymru o'r afon (hefyd: Pont Farndon)[7] Yr enw a ddefnyddir yn Saesneg arni yw 'Farndon Bridge' (cyfeiriad grid SJ412544) sy'n dod o enw'r pentref sydd yr ochr arall i'r bont, yn Sir Gaer, ac felly'n cysylltu Cymru a Lloegr, dros Afon Dyfrdwy. Mae'r bont yn dyddio i tua 1339 ac fe'i codwyd gan fyneich o Abaty Sant Werburgh, Caer. Ceir chwedl leol i ddau o feibion Madog ap Gruffudd of Dinas Brân, Llangollen foddi yma ger y bont, a bod eu sgrechiadau yn dal i'w clywed ar adegau.[8]
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[9][10][11][12]
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Leigh Richmond Roose (1877-1916), chwaraewr pêl-droed
- William Stanley (Brwydr Bosworth)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 16 Tachwedd 2021
- ↑ Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), t. 196
- ↑ britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 15 Medi 2017.
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 3 Medi 2017.
- ↑ Holland, Richard (30 Gorffennaf 2009). "BBC - North East Wales - Wrexham's Bridge of Screams". BBC. http://news.bbc.co.uk/local/northeastwales/hi/people_and_places/history/newsid_8176000/8176472.stm. Adalwyd 24 Awst 2014.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Pentre Holt
- (Saesneg) Holt, BBC Cymru Archifwyd 2006-07-19 yn y Peiriant Wayback
Trefi
Y Waun · Wrecsam
Pentrefi
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Llys Bedydd · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Pen-y-cae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhos-ddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Tre Ioan · Wrddymbre