Fideo 9
Fideo 9 | |
---|---|
Genre | Cerddoriaeth |
Cyflwynwyd gan | Eddie Ladd, Daniel Glyn (1992) |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Nifer cyfresi | 6 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 30 munud |
Cwmnïau cynhyrchu |
Criw Byw |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Fformat llun | 576i (4:3 SDTV) |
Rhediad cyntaf yn | 1988–1992 |
Rhaglen gerddoriaeth a chelfyddydol oedd Fideo 9 a ddarlledwyd ar S4C rhwng 1988 a 1992. Fe gyflwynwyd y pum cyfres cynta gan Eddie Ladd a cyflwynwyd y gyfres olaf gan Daniel Glyn. Fe ddaeth y teitl o'r ffaith ei fod yn cael ei ddarlledu am 9pm nos Iau ar S4C. Fe gynhyrchwyd y gyfres gan Criw Byw.
I gychwyn roedd y rhaglen yn gymysgedd o fideos a chyfweliadau gyda artistiaid Cymraeg a roedd yn cynnwys eitemau am y byd celfyddydol. Roedd yna elfen rhyngwladol gref hefyd drwy ddangos fideos cerddorol gan grwpiau tu allan i'r diwylliant Eingl-Americanaidd. Dilynodd y rhaglen nifer o grwpiau Cymreig wrth iddynt chwarae gigs ar gyfandir Ewrop.
Erbyn dechrau'r 90au roedd yna lai o bwyslais ar yr eitemau celfyddydol a mwy ar adlewyrchu y Sîn Roc Gymraeg. Fe ddaeth y cynhyrchwyr, Criw Byw yn nodedig am greu fideos gwreiddiol ar gyfer grwpiau'r cyfnod. Roedd Fideo 9 yn rhoi'r cyfle i roi sglein broffesiynol ar sîn oedd yn amatur yn ei hanfod. Roedd yna benodau arbennig yn canolbwyntio ar un grŵp, er enghraifft y rhaglen ddogfen ABC Datblygu.
Fe newidiwyd pwyslais eto erbyn y gyfres olaf yn 1992, gyda Daniel Glyn yn cyflwyno sesiynau byw, fideos a chyfweliadau. Yna fe ganslwyd y gyfres gan S4C gyda cryn wrthwynebiad. Roedd nifer o fandiau yn gwerthfawrogi fod y rhaglen yn llwyfan i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg a hefyd yn cefnogi'n ariannol drwy dalu am sesiynau recordio a cynhyrchu fideos. Ar y pryd, ychydig iawn o fandiau roc/pop oedd yn gallu gwneud bywoliaeth o'r SRG.
Er y daeth Fideo 9 i ben, fe barhaodd Criw Byw i gynhyrchu'r rhaglen Syth o 1991 ymlaen. Roedd yn cael ei ddarlledu yn ystod amser rhaglenni plant, yn cael ei gyflwyno gan Kevin Davies ac yn cynnwys newyddion, siart Cytgord, fideos a chyfweliadau.
Criw Byw
[golygu | golygu cod]Cwmni cynhyrchu teledu oedd Criw Byw a ffurfiwyd yn 1988 gan Geraint Jarman, Andy Brice, Gethin Scourfield a Dafydd Rhys [1]. Ar ôl i Fideo 9 ddod i ben fe newidiwyd enw'r cwmni i Bangaw.
Ail-ddarllediadau
[golygu | golygu cod]Mae rhai o fideos unigol y gyfres wedi eu ail-ddangos fel rhan o eitemau 'fideo archif' yn rhaglenni cerddoriaeth mwy diweddar S4C, fel Bandit a Y Lle.
Yn 2013 fe wnaeth S4C lansio cyfres gerddoriaeth gyfoes newydd Ochr 1, i gymryd lle Bandit a ddaeth i ben yn 2012. Yn 2012 a 2013 fe ail-ddarlledwyd penodau cynnar o Fideo 9 ar ôl Ochr 1.