Ernest Jones
Ernest Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ionawr 1879 Tre-gŵyr |
Bu farw | 11 Chwefror 1958 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | seiciatrydd, seicdreiddydd, niwrolegydd |
Cyflogwr | |
Priod | Morfydd Llwyn Owen |
Gwobr/au | Cymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain |
Roedd Alfred Ernest Jones (1 Ionawr 1879 – 11 Chwefror 1958) yn seiciatrydd o Gymru ac yn ddisgybl i Sigmund Freud. Ef oedd yn bennaf gyfrifol am ledaenu syniadau ei athro i'r Deyrnas Unedig ar Unol Daleithiau.
Fe'i ganwyd yn Nhre-gŵyr, ger Abertawe[1], ac addysgwyd ef yn gyntaf yn Ysgol Ramadeg Abertawe ac yna yng Nghaerdydd ac Ysbyty Coleg y Brifysgol, Llundain lle graddiodd yn feddyg yn 1901. Ym 1907, tra yn Wien, daeth yn ddisgybl i'r seicolegydd enwog Freud. Gadawodd y cyfandir ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a dychwelodd i Lundain, lle sefydlodd y Gymdeithas Seicoanalytig Brydeinig ym 1919. Pan y bu rhaid i Freud adael Awstria yn sgil yr Anschluss ym 1938, bu Ernest Jones yn gymorth i'w ryddhau o ddwylo'r Natsiaid ac yna ei gynorthwyo i sefydlu yn Llundain yn ei flwyddyn diwethaf cyn ei farwolaeth ym 1939.
Roedd Ernest Jones hefyd yn ymddiddori yng ngwleidyddiaeth ac yn aelod cynnar o Blaid Cymru. Ei wraig gyntaf oedd y cyfansoddwraig Morfudd Llwyn Owen a briododd yn 1917 ac yna Katherine Jokl yn 1919. Ei lyfr sylweddol diwethaf oedd bywgraffiaeth swyddogol Freud, 'Sigmund Freud, Bywyd a Gwaith, 1954 - 1957'.
Roedd yn un o aelodau cyntaf Plaid Cymru ac yn gwaredu, gydol ei oes, nad oedd yn rhugl yn y Gymraeg.
Llyfrau a gweithiau eraill ganddo
[golygu | golygu cod]- 1912. Papers on Psycho-Analysis. Llundain: Balliere Tindall & Cox. Revised and enlarged editions, 1918, 1923, 1938, 1948 (5ed rhifyn).
- 1920. Treatment of the Neuroses. Llundain: Balliere Tindall & Cox
- 1923. Essays in Applied Psycho-Analysis. Llundain: International Psycho-Analytical Press. Revised and enlarged edition, 1951, Llundain: Hogarth Press.
- 1924 (editor). Social Aspects of Psycho-Analysis: Lectures Delivered under the Auspices of the Sociological Society. Llundain: Williams and Norgate.
- 1928. Psycho-Analysis. Llundain: E. Benn (reprinted with an Addendum as What is Psychoanalysis ? in 1949. Llundain: Allen & Unwin).
- 1931a. On the Nightmare. Llundain: Hogarth Press and Institute of Psycho-Analysis.
- 1931b. The Elements of Figure Skating. Llundain: Methuen. Revised and enlarged edition, 1952. Llundain: Allen and Unwin.
- 1949. Hamlet and Oedipus. Llundain: V. Gollancz.
- 1953. Sigmund Freud: Life and Work. Vol 1: The Young Freud 1856-1900. Llundain: Hogarth Press.
- 1955. Sigmund Freud: Life and Work. Vol 2: The Years of Maturity 1901-1919. Llundain: Hogarth Press.
- 1957. Sigmund Freud: Life and Work. Vol 3: The Last Phase 1919-1939. Llundain: Hogarth Press.
- 1961. Sigmund Freud: Life and Work. Addasiad o'r 3 cyfrol cynharach gan Lionel Trilling a Stephen Marcus, gyda chyflwyniad gan Lionel Trilling. Efrog newydd: Basic Books.
- 1956. Sigmund Freud: Four Centenary Addresses. Efrog Newydd: Basic Books
- 1959. Free Associations: Memories of a Psycho-Analyst. Llundain: Hogarth Press.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwyddoniadur Cymru, gwasg Prifysgol Cymru, 2008; tudalen 482