Ellen Key
Ellen Key | |
---|---|
Ganwyd | Ellen Karolina Sofia Key 11 Rhagfyr 1849 Gladhammars |
Bu farw | 25 Ebrill 1926 Västra Tollstads församling |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Galwedigaeth | cyfieithydd, llenor, critig, addysgwr, swffragét, ymgyrchydd dros hawliau merched |
Mudiad | Modern Breakthrough |
Tad | Emil Key |
Mam | Sofia Ottiliana Posse |
llofnod | |
Awdur Ffeministaidd o Sweden oedd Ellen Key (11 Rhagfyr 1849 - 25 Ebrill 1926) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfieithydd, critig, addysgwr a swffragét. Roedd yn eiriolwr cynnar dros addysg a rhianta sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Ond ei gwaith pwysicaf, o bosib, yw ei llyfr ar addysg, sef Barnets århundrade (1900), a gyfieithwyd i'r Saesneg yn 1909 gyda'r teitl The Century of the Child.[1]
Fe'i ganed yn "Mhlas Sundsholm" yn Gladhammars, ardal Småland o Sweden, bu farw yn Västra Tollstads församling yn 76 oed ac fe'i claddwyd yn Västervik, hefyd yn Småland.[2][3][4][5][6][7][8][9]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ei thad oedd Emil Key, sylfaenydd Plaid Amaethyddol Sweden a chyfrannodd yn aml at y papur newydd Swedeg Aftonposten. Ei mam oedd Sophie Posse Key, a aned i deulu aristocrataidd o'r rhan fwyaf deheuol o Sir Skåne. Prynodd Emil Plas Sundsholm adeg ei briodas; ugain mlynedd yn ddiweddarach fe'i gwerthodd am resymau ariannol.[10]
Yr awdur
[golygu | golygu cod]Cafodd Ellen ei haddysgu gartref yn bennaf, lle dysgodd ei mam ramadeg a rhifyddeg iddi a bu ganddi governess hefyd a ddysgodd ieithoedd tramor. Cofnododd Ellen iddi i'r llyfrau canlynol ddylanwadu arni: Amtmandens Døtre (Merched y Swyddog, 1855) gan Camilla Collett a dramâu Henrik Ibsen Kjærlighedens komedie (Comedi Cariad, 1862), Brand (1865) a Peer Gynt (1867). Pan oedd hi'n ugain oed, etholwyd ei thad i'r Riksdag (Senedd y wlad) a symudon nhw i Stockholm, lle manteisiodd ar lyfrgelloedd y ddinas. Astudiodd Ellen Key hefyd ar y cwrs newydd Rossander.[11]
Symudodd i Denmarc yn 1874, i un o'r colegau ac erbyn 1880, roedd yn athrawes yn Ysgol Ferched Anna Whitlock yn Stockholm.[10] Yn 1883, dechreuodd Key addysgu yn ysgol newydd Anton Nyström, Sefydliad y Bobl, a sefydlwyd ym 1880.
Ar ddiwedd y 1880au a dechrau'r 1890au, penderfynodd Key ysgrifennu bywgraffiadau ar fenywod a oedd â rolau amlwg ym mywyd deallusol Sweden: Victoria Benedictsson, Anne Charlotte Leffler, a Sonia Kovalevsky. Byddai hefyd yn ysgrifennu am Johann Wolfgang von Goethe a Carl Jonas Love Almqvist.
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]- Individualism and Socialism (1896)
- Images of Thought (1898)
- Human-beings (1899)
- Lifelines, volumes I-III (1903–06)
- Neutrality of the Souls (1916).
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Gartref y Swedeg, Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd. [12]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Barnets århundrade ar 'Project Runeberg'
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf.
- ↑ Disgrifiwyd yn: "Ellen K S Key". http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf. https://www.bartleby.com/library/bios/index9.html.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: "Ellen K S Key". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 11453. dyddiad cyrchiad: 17 Mawrth 2017. tudalen: 90. "Gladhammars kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/VALA/00098/C/7 (1842-1860), bildid: A0015078_00024". Cyrchwyd 6 Ebrill 2018.
Ellen Carolina? Sofie,11,20, föräldrar? ? Kongl. Sekret. Emil Key och dess ??? Sofi
"Ellen Key". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ellen Key". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ellen Karolina Sofia Key". "Ellen Key". "Ellen Key". - ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Ellen K S Key". "Ellen Key". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ellen Key". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ellen Key". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ellen Key". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Västra Tollstads kyrkoarkiv, Död- och begravningsböcker, SE/VALA/00452/F/1 (1912-1940), bildid: 00020694_00028". t. 24. Cyrchwyd 10 Ebrill 2018.
5, (apr) 25,,1,Ellen Karolina SOfia Key, författarinna från Strand inder Ormbergs kronopark,(18)49 11/12....2229, arteris.cardioskeos + blödningar i hjärn??
"Västra Tollstads kyrkoarkiv, Församlingsböcker. Bunden serie, SE/VALA/00452/A II a/4 (1923-1934), bildid: 00020682_00228". t. 229. Cyrchwyd 10 Ebrill 2018.Ormbergs Kronopark, Strand äg. Ellen Karolina Sofia Key Författarinna (18)49,11/12,Gladhammar.....
"Ellen Karolina Sofia Key". - ↑ Man geni: "Ellen K S Key". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 11453. dyddiad cyrchiad: 17 Mawrth 2017. tudalen: 90. "Gladhammars kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/VALA/00098/C/7 (1842-1860), bildid: A0015078_00024". Cyrchwyd 6 Ebrill 2018.
Ellen Carolina? Sofie,11,20, föräldrar? ? Kongl. Sekret. Emil Key och dess ??? Sofi
- ↑ Man claddu: "Key, Ellen Karolina Sofia". Cyrchwyd 15 Ebrill 2023.
- ↑ Tad: "Ellen K S Key". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 11453. dyddiad cyrchiad: 17 Mawrth 2017. tudalen: 90.
- ↑ 10.0 10.1 Wilkinson, Lynn R. (2002). Twentieth-Century Swedish Writers Before World War II. Farmington Hills, Michigan: Gale. ISBN 978-0-7876-5261-6.
- ↑ Ambjörnsson, Ronny, Ellen Key: en europeisk intellektuell, Bonnier, Stockholm, 2012
- ↑ Galwedigaeth: "Ellen K S Key". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 11453. dyddiad cyrchiad: 17 Mawrth 2017. tudalen: 90. "Ellen K S Key". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 11453. dyddiad cyrchiad: 17 Mawrth 2017. tudalen: 90. "Ellen K S Key". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 11453. dyddiad cyrchiad: 17 Mawrth 2017. tudalen: 90.