Ehedydd coed
Ehedydd coed Lullula arborea | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Alaudidae |
Genws: | Lullula[*] |
Rhywogaeth: | Lullula arborea |
Enw deuenwol | |
Lullula arborea | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Ehedydd coed (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: ehedyddion coed) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Lullula arborea; yr enw Saesneg arno yw Wood lark. Mae'n perthyn i deulu'r ehedydd (Lladin: Alaudidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn L. arborea, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Nid yw Ehedydd coed yn aderyn mudol yn y gorllewin fel rheol, ond yn y dwyrain mae yn mudo ymhellach i'r de yn y gaeaf. Aderyn brown, tua 13.5 – 15 cm o hyd yw, yn bur debyg i'r Ehedydd o ran ei olwg. Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd ei gân, ac yn aml mae'n codi yn uchel i'r awyr dan ganu, hyd at 100 medr. Nytha mewn coedwigoedd agored, neu rostir gyda choed gwasgaredig.
Ar un adeg roedd Ehedydd coed yn aderyn cyffredin trwy Gymru, ond bu gostyngiad mawr yn ei niferoedd yn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, hyd nes iddo bron ddiflannu fel aderyn sy'n nythu. Yn y blynyddoedd diwethaf, ymddengys ei fod ddychwelyd yn raddol i rai ardaloedd.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r ehedydd coed yn perthyn i deulu'r ehedydd (Lladin: Alaudidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Ehedydd Archer | Heteromirafra archeri | |
Ehedydd Rudd | Heteromirafra ruddi | |
Ehedydd Sidamo | Heteromirafra sidamoensis | |
Ehedydd Temminck | Eremophila bilopha | |
Ehedydd diffeithwch | Ammomanes deserti | |
Ehedydd diffeithwch cynffongoch | Ammomanes phoenicura | |
Ehedydd diffeithwch cynffonresog | Ammomanes cinctura | |
Ehedydd tingoch | Pinarocorys erythropygia | |
Ehedydd traeth | Eremophila alpestris | |
Ehedydd tywyll | Pinarocorys nigricans |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.