Dyfeisiwr
Gwedd
Dyfeisiwr yw unigolyn sydd yn creu neu ddarganfod dull, dyfais neu broses ddefnyddiol. Benthycwyd y gair dyfais o'r Saesneg 'device' yn y 15g, oedd yn golygu cynllun.[1] Datblygwyd trefn o gofnodi breinlennau (patent) er mwyn annog dyfeiswyr drwy gynnig hawliau neilltuol am dymor penodedig am ddyfeisiau sydd yn newydd sbon, defnyddiol ac heb fod yn amlwg. Er fod cysylltiad clos rhwng dyfeisiau â gwyddoniaeth a pheirianneg, nid yw dyfeisiwr o angenrheidrwydd yn wyddonwyr neu beiriannwyr.
Dyfeiswyr o Gymru
[golygu | golygu cod]- Lewis Boddington (1907–1994), dyfeisydd y bwrdd hedfan onglog ar gyfer awyr-longau
- Edward George Bowen (1911–1991), dyfeisydd y radar awyren cyntaf
- Donald Watts Davies (1924–2000), dyfeisydd y dull 'switsio pecynnau' mewn trosglwyddo data cyfrifiaduron.
- William Davies Evans (1790–1872), dyfeisydd yr agoriad Gambit Evans mewn gwyddbwyll
- Robert Griffiths (1805 - 1883), dyfeisydd y propelar sgriw ar gyfer llongau
- William Grove (1811–1896), dyfeisydd y gell danwydd; barnwr.
- David Edward Hughes (1831–1900), dyfeisydd y meicroffon a'r teledeipiadur
- Syr William Henry Preece (1834–1931), radio
- Sidney Gilchrist Thomas (1850–1885), cynhyrchu dur yn y dull Basig Cymro?
- Philip Vaughan dyfeisiwr peli-feryn (ball bearings)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ dyfais. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.