Djerba
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 175,820 |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Médenine |
Gwlad | Tiwnisia |
Arwynebedd | 514 km² |
Gerllaw | Gwlff Gabès, Libyan Sea, Y Môr Canoldir |
Cyfesurynnau | 33.7837°N 10.8833°E |
Hyd | 27 cilometr |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Ynys yn y Môr Canoldir oddi ar arfordir deheuol Tiwnisia yw Djerba (hefyd Jerba neu Gerba) gyda arwynebedd o 510 Km² (197 milltir sgwâr, ychydig bach yn llai nag Ynys Môn). Hon yw ynys fwyaf Gogledd Affrica. Mae'r ynys i gyd yn dir lled-anial gyda rhyw 1,500,000 palmwydden ddatys a rhyw 500,000 olewydden yn tyfu. Mae ganddi filltiroedd o draethau o dywod mân. Prin iawn fydd hi'n glawio. Yn y gaeaf fe fydd y tymheredd yn gostwng yn llym fin nos, ond fydd hi ddim yn rhewi.
Yn ôl mytholeg Roeg, Djerba odd gwlad y Lotophagi (bwytawyr y lotws - ffrwyth chwedlonol). Yn ôl y chwedl, roedd pwy bynnag oedd yn bwyta'r ffrwyth yn colli pob hiraeth am gartref. Fe gynigodd y Lotophagi y ffrwythau i ddynion Odysseus.
Meninx oedd enw Djerba yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Fe adeiladodd y Rhufeiniaid sarn i gysylltu'r ynys a chyfandir Affrica.
Mae gan Djerba boblogaeth o 450,000. Berberiaid yw'r rhan fwyaf ohonyn' nhw. Mae yna gymuned fach Iddewig hefyd. Mae'n debyg wnaeth eu hynafiaid ffoi o Caersalem pan gafodd ei ddinistrio gan Titus yn 70 OC. Y brif dref yw Houmt-Souk (cynaniad: hw-met-es-SŴC) sy'n golygu "cymdogaeth y marchnadoedd", poblogaeth 44,555 yn 2004. Ieithoedd Djerba yw Arabeg, Ffrangeg a Berber, fel gweddill y Maghreb.
Mae'r rhan fwyaf o dai Djerba yn wyn gyda'r drysau a'r ffenestri wedi'u peintio'n las. Fe fydd y muriau gwyn yn adlewychu gwres yr haul a'r ffenestri glas yn cadw pryfed yn ôl. Mae gweddill Tiwnisia wedi dynwared y ffasiwn hwn, yn enwedig ym mhentref Sidi Bou Saïd ger Tiwnis.
Synagog Al-Ghriba yw'r synagog mwyaf prydferth yng ngogledd Affrica. Cafodd y synagog wreiddiol ei sefydlu yn y 6g C.C.
Un o ddiwydiannau Djerba yw pysgota ysbwng.
Ceir gwasanaeth fferi rhwng porthladd Ajim a Jorf ar y cyfandir.