[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Delta Niger

Oddi ar Wicipedia
Delta Niger
Mathriver delta Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTambakounda, Bamako, Tombouctou, Lokoja, Onitsha North Edit this on Wikidata
GwladNigeria, Gini Bisaw, Benin, Mali, Niger Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau5.3261°N 6.4708°E, 4.83°N 6°E Edit this on Wikidata
Map

Rhanbarth daearyddol ac ecolegol yn ne Nigeria yw Delta Niger a leolir o amgylch aberdiroedd Afon Niger, prif afon Gorllewin Affrica, wrth iddi lifo i Gwlff Gini yng Nghefnfor yr Iwerydd. Hwn ydy un o'r deltâu mwyaf yn y byd. a chanddo arwynebedd o 36,000 metr sgcilowar (14,000 mi sgw).[1] Mae'n cwmpasu naw o daleithiau Nigeria: chwe thalaith ym mharth y De De (Akwa Ibom, Bayelsa, Cross River, Delta, Edo, a Rivers), taleithiau Abia ac Imo ym mharth y De Ddwyrain, a Thalaith Ondo ym mharth y De Orllewin. Mae'r delta yn ymestyn rhyw 150 cilometr (93 mi) o'r de i'r gogledd, o aberoedd Niger hyd at y fan mae'n cydlifo â'i phrif isafon, Benue, ger dinas Lokoja.

Ardal eang o wlyptiroedd trofannol ydy Delta Niger, a nodweddir gan rwydwaith cymhleth o nentydd, cilfachau, ynysoedd bychain, a gwernydd mangrof. Mae'n hynod o fioamrywiol ac yn meddu ar nifer o adnoddau naturiol, gan gynnwys gwaddodion olew a nwy. Mae'r rhanbarth yn gartref i uwch na 30 miliwn o bobl o ryw 40 o grwpiau ethnig, gan gynnwys yr Ogoni, yr Ijaw, yr Urhobo, a'r Itsekiri.[1]

Mae'r rhanbarth o bwysigrwydd economaidd a daearwleidyddol mawr. Yn y 1990au cychwynnodd tensiynau rhwng trigolion yr ardal a'r cwmnïau olew amlwladol, a gyhuddwyd o gamdrin ac ymelwa ar y bobl leol. Cychwynnodd rhyfel yn Nelta Niger yn 2003 gyda milisiâu lleol ac ymwahanwyr ethnig yn brwydro'n erbyn y lluoedd arfog a'r llywodraethau ffederal a thaleithiol, ac hefyd troseddwyr cyfundrefnol, môr-ladron, a banditiaid yn ymuno â'r ffrae.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Toyin Falola, Ann Genova a Matthew M. Heaton, Historical Dictionary of Nigeria, ail argraffiad (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2018), t. 283.