[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Deiniol

Oddi ar Wicipedia
Deiniol
Cerflun o Deiniol, Eglwys Gadeiriol Bangor
Ganwydc. 530 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw584 Edit this on Wikidata
Ynys Enlli Edit this on Wikidata
Man preswylTyddewi, Bangor-is-y-coed Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl11 Medi Edit this on Wikidata
TadDynod Fawr Edit this on Wikidata
MamDwywe Edit this on Wikidata
PlantDeiniolen Edit this on Wikidata
LlinachUrien Rheged Edit this on Wikidata

Sant Deiniol (hefyd Deiniol Wyn a Deiniol Ail, Lladin: Daniel) (fl. 550?) yw nawddsant dinas Bangor yng Ngwynedd, Cymru. Yn ôl yr achau yr oedd o'r un llinach ag Urien Rheged, pennaeth Rheged yn yr Hen Ogledd. Roedd yn fab i Sant Dunod, un o feibion Cunedda Wledig, a'r santes Dwywe ferch Gwallog ap Llëenog. Ei fab oedd Sant Deiniolen, a elwir yn Ddeiniol Fab yn ogystal.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Dywedir fod Deiniol yn byw fel meudwy ger Tyddewi cyn symud i'r fynachlog newydd ym Mangor Is-Coed a sefydlwyd gan ei dad, yn ôl traddodiad. Ceir ffynnon o'r enw Ffynnon Ddeiniol yno. Eto yn ôl traddodiad dywedir mai Deiniol a Dyfrig a berswadiodd Ddewi Sant i gynnal Synod Llanddewibrefi yn 545.

Sefydlodd Deiniol eglwys ym Mangor yn Arfon neu Fangor Fawr (dinas Bangor heddiw). Roedd yn abad ar gymuned o fynachod yno yn ôl pob tebyg a chafodd ei apwyntio'n esgob cyntaf esgobaeth Bangor (gan y brenin Maelgwn Gwynedd yn ôl un ffynhonnell, ond mae hynny'n annhebygol). Cafodd ei gladdu ymhlith yr Ugain Mil o Seintiau ar Ynys Enlli, yn ôl Gerallt Gymro.

Eglwysi

[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â Bangor Fawr, ceir eglwysi cysegredig i Ddeiniol yn y gogledd ym Marchwiail ger Wrecsam, Llanuwchllyn a Llanfor ger Y Bala, a Penarlâg (Hawarden) yn Sir y Fflint (lle codwyd Llyfrgell Deiniol Sant gan Gladstone). Ceir yn ogystal Landdeiniol yng Ngheredigion, ger Llanddewibrefi. Ceir ambell enghraifft o'i enw cysylltiedig ag egwlysi yn y de yn ogystal ond perthynai i'r hen Wynedd yn neilltuol. Mae cymunedau Planiel, Aodoù-an-Arvor a Plouzeniel, Penn-ar-Bed, Llydaw hefyd wedi eu henwi er clod i Sant Deiniol [1]

Ei ddydd gŵyl yw 11 Medi.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Sabine Baring-Gould, The Lives of the British Saints: The Saints of Wales, Cornwall and Irish Saints