Darogan
Gwedd
Dull cyfrin i ragweld y dyfodol yw darogan. Gelwir un sy'n medru darogan yn ddaroganwr neu broffwyd (ond mae proffwyd yn derm sy'n tueddu i gael ei gyfyngu i draddodiadau crefyddol un duw e.e. proffwydi'r Hen Destament.
Y Celtiaid a'r Cymry
[golygu | golygu cod]Roedd y Celtiaid ymhlith y pobloedd hynafol a ymddiddorai'n fawr mewn darogan. Yng Nghymru'r Oesoedd Canol, roedd bri mawr ar ganu darogan a thestunau rhyddiaith proffwydoliaethol a brutiau. Ceir nifer o gerddi darogan a briodolir gan amlaf i feirdd o'r gorffennol, yn enwedig Taliesin, neu ffigurau chwedlonol fel Myrddin, ond roedd rhai o'r beirdd proffesiynol yn cyfansoddi cywyddau darogan hefyd.
Yn yr Oesoedd Canol, a hyd at y 19eg ganrif, credai rhai fod y Dynion Hysbys yn medru rhagweld y dyfodol.
Rhai dulliau cyffredin
[golygu | golygu cod]- Sêr-ddewiniaeth: trwy astudio'r wybren.
- Argoel: trwy astudio hedfan adar.
- Llyfr-ddewiniaeth: gyda llyfrau (testunau crefyddol yn aml).
- Cerdyn-ddewiniaeth: gyda chardiau.
- Llaw-ddewiniaeth: trwy "ddarllen" cledrau'r dwylo.
- Adeg-ddewiniaeth: ynglŷn ag adegau, diwnodau lwcus/anlwcus.
- Cyfrifiadur-ddewiniaeth: gyda chyfrifiaduron.
- Pêl-ddewiniaeth: gyda phêl grisial.
- Daear-ddewiniaeth: trwy astudio marciau ar y ddaear, ayyb.
- Dŵr-ddewiniaeth: trwy astudio dŵr.
- I Ching; ffurf o Lyfr-Ddewiniaeth.
- Rhif-ddewiniaeth: trwy astudio rhifau.
- Breuddwyd-ddewiniaeth: trwy freuddwydion.
- Rwnig-ddewiniaeth: gyda llythrennau rwnig.
- Tân-ddewiniaeth: trwy astudio tân.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Augur, daroganwr o offeiriad yng nghrefydd Rhufain
- Canu Darogan
- Dyn Hysbys
- Mab Darogan, gwaredwr disgwyliedig y Cymry
- Rhagfynegiad