Dan y Don (panto)
Enghraifft o'r canlynol | pantomeim, gwaith drama-gerdd |
---|---|
Crëwr | Cwmni Theatr Cymru |
Dyddiad cynharaf | 1973 |
Awdur | Ifor Wyn Williams |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | heb ei chyhoeddi |
Prif bwnc | Cantre'r Gwaelod |
Cyfansoddwr | Ann Llwyd a Sue Roderick |
Pantomeim Cymraeg gan Ifor Wyn Williams a gyflwynwyd gan Gwmni Theatr Cymru ym 1973 yw Dan Y Don. Cyfansoddwyd y caneuon gan Ann Llwyd a Susan Broderick [Sue Roderick].[1]
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]"Mae gan y stori gysylltiad llac (yn ôl traddodiad pantomeim) â Chantref Gwaelod, y fro ledrithiol honno, sy'n gorwedd 'o dan y môr a'i donnau'. Yno mae'r ddau arwr digrif, Ianto a Nyff yn cael llawer o droeon rhyfedd a thrwstan yn nheyrnas brenin boliog, a'i frenhines ofnadwy o ddwyieithog, a thywysog ifanc sy'n dyheu am ei gariadferch landeg. Hefyd mae dwy dywysoges hagr, yn dwyn yr enwau swynol Tysanwedd a Moronwedd, cynllyniwr mileinig a'i was parod, môr-forwyn brydferth a physgod ac octopws llachar eu lliwiau sy'n gallu dawnsio."[1]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Brenin Garalong Hirgoes
- Fferi Nyff [2]
- Tywysog
- Rhianwen
- Tysanwedd - chwaer hyll
- Moronwedd - chwaer hyll
- Ianto
- Brenhines
- Esda
- 'Cynlluniwr mileinig'
- gwas yr uchod
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y panto am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru ym 1973. Cyfarwyddwr Grey Evans ac Wilbert Lloyd Roberts; cynllunydd Martin Morley; cast:
- Brenin Garalong Hirgoes - Mici Plwm
- Fferi Nyff - Wynford Ellis Owen [2]
- Tywysog - Ian Saynor
- Rhianwen - Carole Hopkin[1]
- Tysanwedd - Elliw Haf
- Moronwedd - Eirlys Hywel [Parri]
- Ianto - Dyfan Roberts
- Brenhines - Iona Banks
- Esda - Susan Broderick [Sue Roderick]
- 'Cynlluniwr mileinig' - Huw Tudor [1]
- gwas yr uchod - Grey Evans
Cafwyd adolygiad o'r pantomeim yn y North Wales Weekly News ym mis Chwefror 1974:
"Yn y prif rannau roedd Wynford Ellis Owen (Nyff), Dyfan Roberts (Ianto) gyda gwrthgyferbyniad rhwng ynni gwyllt Ianto a ffug-ddoethineb Nyff, gyda'i slogannau "Fol'na" a "Fel mae'n digwydd." Ceir portreadau ysmala hefyd gan Iona Banks fel y frenhines na fedr hi "standio" rhyw lawer yn Gymraeg nac yn Saesneg, a chan Mici Plwm fel y brenin tew a'i floeddiadau di-diwn. Mae Huw Tudor a Grey Evans gyda'u ffug fileindra, yn null traddodiad y pantomeim. Yn rhan bwysig Esda, mae Susan Broderick yn cyfuno personoliaeth dymunol; yr actorion Elliw Haf ac Eirlys Hywel oedd yn actio'r ddwy dywysoges aflunaidd. Y cyfarwyddwr oedd Grey Evans, a oedd hefyd mewn rol bychan ar y llwyfan."[1]
"Fi oedd Y Brenin Garalong Hirgoes", medde Mici Plwm yn ei hunangofiant yn 2002; [3] "Rhyw fath o Neptiwn Cymraeg. Doedd dim angan gwallt na barf hir gosod arna'i gan fod y rheiny gen i eisoes [...] Hwn oedd ail neu drydydd panto Cwmni Theatr Cymru a doeddwn i ddim wedi cyfarfod â Wynff [Elllis Owen] cyn hynny. Ef oedd yn chwara rhan Fferi Nyff ac fe gliciodd y ddau ohonon ni o'r dechra. Roeddan ni'n tynnu ymlaen yn dda ac roedd ganddo ni rhyw rapport yn y stafell newid. Doedd ganddon ni ddim golygfeydd gyda'n gilydd ar y llwyfan ond fe ddaethon i ddallt ein gilydd yn dda. Ac, o siario stafell newid, fe ddaethon ni'n dipyn o fêts ac rwy'n dal yn ffrindiau efo fo, mwy nag erioed, hwyrach," ychwanegodd.[3]
"Cymeriad Wynff oedd arwr mawr y sioe. Doedd ganddo fo ddim cymaint a hynny o linellau i'w llefaru, dim ond dod ar y Ilwyfan, cerdded o gwmpas a deud ambell 'air. Yn y stafell newid, lle bydden ni'n eistedd wrth ochr ein gilydd, fe fyddai rhyw fath o double act rhyngom, Wynff, hwyrach, yn clicio'i fysedd a minnau'n pasio'r colur. Roedd angan llawer o golur, yn enwedig un coch ar gyfer y minlliw. Beth oedd 'Fferi Nyff' oedd camgymeriad dewin: yn lle creu Tylwythen Deg bryderth roedd wedi creu'r Dylwythen Deg hyllaf bosib, yn gwisgo sgidiau mawr, cryfion".[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "Feb 14, 1974, page 29 - The North Wales Weekly News at Newspapers.com". Newspapers.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-12.
- ↑ 2.0 2.1 Owen, Wynford Ellis (2004). Raslas Bach A Mawr!. Gomer.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Plwm, Mici (2002). Meical Ddrwg O Dwll Y Mwg. Gwasg Gwynedd. ISBN 9780860 741886.