Damwain awyren Cwm Edno
Enghraifft o'r canlynol | damwain awyrennu |
---|---|
Dyddiad | 10 Ionawr 1952 |
Lladdwyd | 23 |
Gweithredwr | Aer Lingus |
Ar 10 Ionawr 1952 roedd awyren DC-3 Dakota o'r enw 'Saint Kevin', a oedd yn eiddo i Aer Lingus, yn teithio o faes awyr Northolt, Llundain, i faes awyr Dulyn. Wrth groesi mynyddoedd Eryri, daliwyd hi gan wyntoedd cryfion. Disgynodd i dir mawnog Bwlch y Rhediad, yn Nyffryn Edno, Dolwyddelan, Gwynedd. Bu farw pob un o'r 23 teithiwr oedd ar ei bwrdd.
Cychwynodd yr awyren o Lundain am 17:25 a phasiodd uwchben Daventry, Northampton am 17:56. Am 19:12 cafwyd neges gan y criw eu bod uwch Nefyn, 6,500 troedfedd uwch lefel y môr, a'u bod i'r gogledd o'u llwybr arfaethedig o ychydig filltiroedd, ni chafwyd unrhyw neges radio pellach o'r awyren.[1]
Yn 2017 hon oedd y 25ed damwain awyren waethaf a fu yng ngwledydd Prydain. Gyrrwyd hi gan beiriannau Pratt & Whitney R-1830-90C. Ni daethpwyd o hyd i union achos y ddamwain gan y Llys Ymchwilio a gynhaliwyd yn Ebrill 1952. Roedd y criw wedi colli rheolaeth o'r awyren yn fuan ar ôl anfon eu neges olaf. Nodwyd hefyd fod rhan o'r adain wedi torri i ffwrdd o'r awyren a glaniodd 183 metr (200 llathen) o weddill yr awyren. Yr achosion tebygol oedd gwynt cryf.
Cyfeiriad
[golygu | golygu cod]- ↑ peakdistrictaircrashes.co.uk; adalwyd 10 Ionawr 2024.