Dag Hammarskjöld
Dag Hammarskjöld | |
---|---|
Ganwyd | 29 Gorffennaf 1905 Jönköping |
Bu farw | 18 Medi 1961 Ndola |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, economegydd, bardd, llenor, athronydd |
Swydd | Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ysgrifennydd Gwladol, Minister of Foreign Trade, seat 17 of the Swedish Academy |
Cyflogwr |
|
Plaid Wleidyddol | Annibynnwr |
Tad | Hjalmar Hammarskjöld |
Mam | Agnes Maria Carolina Almquist |
Llinach | Hammarskjöld family |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, Urdd Seren y Gogledd - Cadlywydd y Groes Uwch, Grand Cross of the Order of Merit, Uwch Groes Dannebrog, Uwch Groes Urdd y Orange-Nassau, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav |
Gwefan | https://www.daghammarskjold.se |
llofnod | |
Diplomydd, economegydd ac awdur o Sweden ac Ysgrifennydd Cyffredinol Y Cenhedloedd Unedig oedd Dag Hjalmar Agne Carl Hammarskjöld (29 Gorffennaf 1905 – 18 Medi 1961). Bu yn y swydd o Ebrill 1953 tan ei farwolaeth mewn damwain awyren ym Mis Medi 1961 yn 47 oed. Ef, hyd yma, yw'r ieuengaf i ddal y swydd ail Ysgrifennydd y CU. Mae hefyd yn un o'r unig dri pherson erioed i dderbyn Gwobr Nobel wedi iddo farw,[1] a'r unig Ysgrifennydd Cyffredinol i farw wrth ei waith. Bu farw ar ei ffordd i gyfarfod negydu heddwch.
Mewn teyrnged iddo galwodd yr Arlywydd John F. Kennedy ef "y gwladweinydd mwyaf a gawsom am ganrif gyfan."[2]
Cefndir personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Dag Hammarskjöld yn Jönköping, Sweden, ond treuliodd lawer o'i blentyndod yn Uppsala. Ef oedd pedwerydd mab Hjalmar Hammarskjöld, Prf Weinidg Sweden o 1914 hyd 1917, a'i wraig Agnes Hammarskjöld (née Almquist). Bu'n ddisgybl yn Katedralskolan ac yna ym Mhrifysgol Uppsala. Erbyn 1930, roedd ganddo Radd mewn Athroniaeth a Gradd Meistr yn y Gyfraith.
Cyn iddo gwbwlhau ei Radd Meistr roedd wedi sicrhau swydd fel Is-Ysgrifennydd Pwyllgor Diweithdra'r CU.[3]
Rhagflaenydd: Trygve Lie |
Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig 10 Ebrill 1953 – 18 Medi 1961 |
Olynydd: U Thant |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.nobelprize.org/nobel_prizes/facts/
- ↑ Linnér S (2007). "Dag Hammarskjöld and the Congo crisis, 1960–61" (PDF). Uppsala University. t. Page 28. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-04-05. Cyrchwyd 2014-10-05.
- ↑ "Biography, at Dag Hammerskjoldse". Daghammarskjold.se. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-02. Cyrchwyd 2013-09-10.