Dafydd ap Gruffudd
Dafydd ap Gruffudd | |
---|---|
Ganwyd | 11 Gorffennaf 1238 Gwynedd |
Bu farw | 3 Hydref 1283, 1283 Amwythig |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn, pendefig |
Swydd | tywysog |
Tad | Gruffudd ap Llywelyn Fawr |
Mam | Senana |
Priod | Elizabeth Ferrers |
Plant | Owain ap Dafydd, Llywelyn ap Dafydd, Gwladys ferch Dafydd ap Gruffudd, Dafydd Goch |
Llinach | Llys Aberffraw |
Roedd Dafydd ap Gruffudd (c. 11 Gorffennaf (?) 1238 – 3 Hydref 1283), Arglwydd Dyffryn Clwyd, yn Dywysog Cymru o Ragfyr 1282 hyd 1283, yn dilyn marwolaeth ei frawd Llywelyn ap Gruffudd. Ef oedd yr olaf o frenhinoedd a thywysogion Gwynedd, er mai ei frawd Llywelyn a gafodd y teitl Ein Llyw Olaf.
Blynyddoedd cynnar
[golygu | golygu cod]Roedd Dafydd yn fab i Gruffudd ap Llywelyn Fawr a'i wraig Senana, ac felly'n wŷr i Llywelyn Fawr. Y trydydd o bedwar mab oedd Dafydd. Yn 1241 cofnodir iddo ef a'i frawd iau Rhodri gael eu rhoi'n wystlon i'r brenin Harri III o Loegr fel rhan o gytundeb.Yn 1253 cofnodir iddo gael ei alw i dalu gwrogaeth i Harri III.
1255-81
[golygu | golygu cod]Yn 1255 ymunodd â'i frawd Owain yn erbyn Llywelyn, ond cawsant eu gorchfygu ganddo ym Mrwydr Bryn Derwin. Carcharwyd Dafydd, ond rhyddhaodd Llywelyn ef y flwyddyn ddilynol a'i adfer i'w lys. Yn 1263 ymunodd â Harri III mewn ymgyrch yn erbyn Llywelyn. Wedi i Lywelyn gael ei gydnabod gan Harri fel Tywysog Cymru yn ôl Cytundeb Trefaldwyn yn 1267, adferwyd Dafydd i ffafr Llywelyn eto, ond yn 1274 ymunodd â'r brenin Edward I, brenin Lloegr mewn ymgyrch arall yn erbyn Llywelyn. Priododd ag Elizabeth Ferrers, merch William de Ferrers, Iarll Derby a pherthynas pell i'r brenin.
Rhyfel 1282-83
[golygu | golygu cod]Roedd Dafydd wedi cael addewid am diroedd yng ngogledd Cymru gan Edward yn dâl am ei gymorth, ond ni chafodd y cyfan a addawyd iddo. Ar Sul y Blodau[1] (21 Mawrth 1282)[2] ymosododd Dafydd ar Benarlâg, gan ddechrau'r rhyfel a roes derfyn ar deyrnas Gwynedd. Roedd i Dafydd ei hun ran amlwg yn y rhyfel, a phan laddwyd Llywelyn mewn ysgarmes yng Nghilmeri ddiwedd y flwyddyn honno cyhoeddwyd Dafydd yn dywysog yn ei le. Nid oedd yr un gefnogaeth i Dafydd ag i Lywelyn, ond llwyddodd i gadw Castell Dolwyddelan am gyfnod. Wedi i'r castell yma syrthio i fyddin Edward ar 18 Ionawr 1283, enciliodd Dafydd i Gastell y Bere, lle bu byddin o dros 3,000 o wŷr yn gwarchae arno. Bu raid i'r garsiwn bychan ildio ar 25 Ebrill[3] ond llwyddodd Dafydd i ddianc i Gastell Dolbadarn, cyn gorfod chwilio am loches yn y mynyddoedd. Ymddengys iddo gael ei fradychu gan rai o'i wyr ei hun, a chymerwyd ef yn garcharor ar lethrau Cader Idris.
Ei ddiwedd
[golygu | golygu cod]Ar 28 Mehefin 1283 galwodd Edward I senedd i gyfarfod yn Amwythig i farnu Dafydd. Ar 30 Medi dedfrydwyd ef i farwolaeth am deyrnfradwriaeth, oherwydd ei fod wedi torri cytundebau a wnaeth â'r brenin.
Llusgwyd trwy strydoedd yr Amwythig gan geffyl, cyn ei grogi, ei adfywio am ychydig ac yna rhwygwyd ei berfedd allan o'i fol. Taflwyd y perfeddau i'r tân o flaen ei lygad. Torrwyd ei ben i ffwrdd a'i roi ar bigyn yn Nhŵr llundain, yn nesaf at ei frawd Llywelyn. Torrwyd ei gorff yn chwarteri.[4]
Mae rhai yn credu mai ef oedd y cyntaf i ddioddef y math yma o ddienyddiad erchyll yn gosb am deyrnfradwriaeth, a ddaeth yn gyffredin dan gyfraith Lloegr yn y canrifoedd nesaf. Yr enw mwyaf cyffredin ar y gosb yw crogi, diberfeddu a chwarteru. Ni ddefnyddiwyd y gosb hon gan Gymru ar deyrnfradwyr o Loegr erioed.
Tynged yr etifeddion
[golygu | golygu cod]Gyrrwyd ei ferch Gwladys, i leiandy yn Sixhills, Swydd Lincoln, lle bu farw yn 1336,[5] tra charcharwyd ei feibion bychain Llywelyn ac Owain yng Nghastell Bryste. Cawsant yr un driniaeth ag etifeddion Llywelyn Ein Llyw Olaf felly, gyda'r bwriad gan Edward I o ddileu Teulu Gwynedd am byth. Yn ôl rhai o'r achau Cymreig, goroesodd ei fab perth a llwyn, Dafydd Goch, a bu ei ddisgynyddion yn byw yn Nant Conwy am sawl cenhedlaeth.
Llywelyn Fawr 1173-1240 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gruffudd ap Llywelyn Fawr 1200-1244 | Dafydd ap Llywelyn 1215-1246 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Goch ap Gruffydd d. 1282 | Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn yr Ail) 1223-1282 | Dafydd ap Gruffydd 1238-1283 | Rhodri ap Gruffudd 1230-1315 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Y Dywysoges Gwenllian 1282-1337 | Llywelyn ap Dafydd 1267-1287 | Owain ap Dafydd 1265-1325 | Gwladys (m. 1336 yn Sixhills) | Tomas ap Rhodri 1300-1363 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Lawgoch 1330-1378 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- John Davies, Hanes Cymru (Llundain, 1990)
- Ralph Maud, Dafydd Tywysog Olaf Cymru ('Cofiwn', 1983). Cyfieithiad o'r erthygl Saesneg a gyhoeddywd yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1968.
- J. Beverly Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [1]Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; adalwyd 21 Mawrth 2016
- ↑ Gwyddoniadur Cymru, tud. 261; Gwasg Prifysgol Cymru (2008)
- ↑ Davies, John (2007). Hanes Cymru. Penguin History. t. 148. ISBN 9780140284768.
- ↑ Long, Tony. "Oct. 3, 1283: As Bad Deaths Go, It's Hard to Top This". Wired (yn Saesneg). ISSN 1059-1028. Cyrchwyd 2022-05-27.
- ↑ Princes of Gwynedd Archifwyd 2013-06-13 yn y Peiriant Wayback, princesofgwynedd.com. Adalwyd 2014.
O'i flaen : Llywelyn ap Gruffydd |
Tywysogion Gwynedd | Olynydd : Diddymwyd y teitlau brodorol. Dechrewyd deitl anfrodorol Saesnig "Tywysog Cymru" |