[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Gwobrau’r Selar

Oddi ar Wicipedia
Gwobrau’r Selar
Enghraifft o'r canlynolgwobr cerddoriaeth Edit this on Wikidata

Mae Gwobrau’r Selar yn cael eu dyfarnu'n flynyddol am y gerddoriaeth roc a phop Gymraeg orau, gan y cylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg, Y Selar.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Dosbarthwyd y gwobrau gyntaf yn 2010, mewn deg categori, a phleidleisiwyd trwy wefan Y Selar, tan ddyddiad cyhoeddi rhifyn mis Mawrth o'r cylchgrawn.

Bob mis Chwefror ers 2014, cynhaliwyd y digwyddiad gwobrau mewn digwyddiad 'byw' ym Mhrifysgol Aberystwyth, o flaen cynulleidfa o 500 i ddechrau,[1] gan gynyddu i 700 yn 2015. Dywedodd y trefnwyr bod gynulleidfa o bron i 1,000 ym mis Chwefror 2016.

Gwahoddir enwebiadau tan fis Rhagfyr bob blwyddyn, ar gyfer y deuddeg categori, gyda'r panel gwobrau yn dewis rhestr hir ohonynt. Yna cynhelir pleidlais gyhoeddus gan ddefnyddio ap Facebook.[2]

Canllawiau

Er mwyn i bandiau fod yn gymwys mae rhaid fod o leiaf 50% o gerddoriaeth Cymraeg, er enghraifft mae'n rhaid i albwm 10 trac gynnwys o leiaf 5 yn yr iaith Gymraeg. Mae rhaid hefyd i'r albwm neu trac gael ei rhyddhau (nid oes hawl bod ar gael i ffrydio yn unig) yn ystod flwyddyn y gwobr.[2]

Enillwyr

[golygu | golygu cod]
  • Sengl Orau 2008: Chaviach / Bwthyn – Derwyddon Dr Gonzo
  • EP Orau 2008: Edrych yn Llygaid Ceffyl – Cate Le Bon
  • Casgliad Gorau 2008 (Goreuon / Aml-gyfrannog): Atgof fel Angor – Geraint Jarman
  • Clawr Gorau 2008: Rhwng y Llygru a’r Glasu – Gai Toms
  • Cân Orau 2008: Organ Aur Huw – Eitha Tal Ffranco
  • Albwm Gorau: Y Capel Hyfryd – Plant Duw

Cyflwynwyd ar 15 Chwefror 2014

Cyflwynwyd ar 21 Chwefror 2015

Cyflwynwyd ar 20 Chwefror 2016

Cyflwynwyd ar 18 Chwefror 2017

Cyflwynwyd ar 17 Chwefror 2018

Cyflwynwyd ar 16 Chwefror 2019.

Cyflwynwyd ar 14/15 Chwefror 2020

Cynhaliwyd dros rhaglenni BBC Radio Cymru rhwng 8-11 Chwefror 2021 oherwydd pandemig COVID-19.

  • Seren y Sin: Mared Williams
  • Gwaith Celf (Noddir gan Y Lolfa): Cofi 19
  • Band neu Artist Newydd (Noddir gan Gorwelion): Malan
  • Artist Unigol Gorau: Mared
  • Cân Orau (Noddir gan PRS for Music): ‘Hel Sibrydion’ – Lewys
  • Gwobr 2020 (Noddir gan Heno): Eädyth
  • Record Fer: Dim ond Dieithryn – Lisa Pedrick
  • Cyfraniad Arbennig (Noddir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi-Sant): Gwenno
  • Fideo Gorau (Noddir gan S4C): Dos yn Dy Flaen – Bwncath
  • Band Gorau: Bwncath
  • Record Hir Orau (noddir gan Rownd a Rownd): Bwncath II – Bwncath

Cyflwynwyd ar 17 Chwefror 2022

  • Cân Orau (Noddir gan PRS for Music): Llyn Llawenydd – Papur Wal
  • Band neu Artist Newydd 2021: Morgan Elwy
  • Seren y Sin 2021: Marged Gwenllian
  • Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa): Cashews Blasus – Y Cledrau
  • Artist Unigol Gorau: Mared
  • Gwobr 2021 (Noddir gan Heno): Merched yn Gwneud Miwsig
  • Record Fer Orau (noddir gan Dydd Miwsig Cymru): Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Gymreig – Los Blancos
  • Record Hir Orau 2021: Amser Mynd Adra – Papur Wal
  • Cyfraniad Arbennig (Noddir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi-Sant): Tecwyn Ifan
  • Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C): Theatr – Sŵnami
  • Band Gorau: Papur Wal

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Hat-tric i Candelas yng Ngwobrau'r Selar". Golwg360. 2014-02-17. Cyrchwyd 2021-02-08.
  2. 2.0 2.1 "Canllawiau Gwobrau'r Selar". Y Selar. 2018-03-07. Cyrchwyd 2021-02-08.