Gweriniaeth Islamaidd Affganistan
Arwyddair | نه به افراطیت |
---|---|
Math | gwlad ar un adeg |
Prifddinas | Kabul |
Poblogaeth | 39,905,102 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Anthem Genedlaethol Affganistan |
Pennaeth llywodraeth | Abdullah Abdullah |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Pashto |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Affganistan |
Arwynebedd | 652,864 km² |
Cyfesurynnau | 34.5328°N 69.1658°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol Affganistan |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Affganistan |
Pennaeth y wladwriaeth | Hamid Karzai, Ashraf Ghani, Amrullah Saleh |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weithredwr Affganistan |
Pennaeth y Llywodraeth | Abdullah Abdullah |
Arian | afghani |
Gwladwriaeth a fodolai yn Affganistan o 2004 i 2021 oedd Gweriniaeth Islamaidd Affganistan (Dari: جمهوری اسلامی افغانستان Jumhūrī-yi Islāmī-yi Afġānistān, Pashto: د افغانستان اسلامي جمهوریت Da Afġānistān Islāmī Jumhoryat), yn ystod cyfnod Rhyfel Affganistan (2001–21). Sefydlwyd y weriniaeth Islamaidd gan y cyfansoddiad newydd a gadarnhawyd yn Ionawr 2004,[1] dwy flynedd wedi cwymp y Taleban a fuont yn llywodraethu ar Emiriaeth Islamaidd Affganistan o 1996 i 2001. Daeth Gweriniaeth Islamaidd Affganistan i ben yn sgil buddugoliaeth ymgyrch ymosodol y Taleban yn Awst 2021 ac ailsefydlu'r Emiriaeth Islamaidd. Er iddi golli'r rhan fwyaf helaeth o'i thiriogaeth, cydnabyddir y Weriniaeth Islamaidd o hyd yn llywodraeth gyfreithlon Affganistan gan nifer o wledydd eraill.
Pennaeth gwladwriaethol a llywodraethol cyntaf y weriniaeth oedd yr Arlywydd Hamid Karzai, a fu'n arweinydd dros dro y wlad ers Cynhadledd Bonn yn Rhagfyr 2001 ac yn gadeirydd Gweinyddiaeth Drawsnewidiol Affganistan (2002–04) ers cynulliad y loya jirga yn y brifddinas Kabul ym Mehefin 2002. Etholwyd Karzai yn Arlywydd Affganistan gan y bobl yn Hydref 2004, a'i ail-ethol yn Awst 2009. Yn sgil canlyniadau amheus yr etholiad arlywyddol yn 2014, cytunodd y ddau prif ymgeisydd, Ashraf Ghani ac Abdullah Abdullah, i rannu grym, gyda'r Arlywydd Ghani yn bennaeth y wladwriaeth a'r Prif Weithredwr Abdullah yn bennaeth y llywodraeth hyd at Fawrth 2020. Ail-etholwyd Ghani yn 2019, ac efe oedd arlywydd olaf Gweriniaeth Islamaidd Affganistan.
Ffoes Ghani y wlad yn ystod cwymp Kabul yn Awst 2021, ac honnai'r Prif Is-arlywydd Amrullah Saleh ei fod yn arlywydd dros dro y wlad.[2] Cadarnle olaf y Weriniaeth Islamaidd yw Dyffryn Panjshir, sydd yn parhau'r frwydr yn erbyn y Taleban er gwaethaf cwymp Kabul.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "The Constitution of Afghanistan" (26 Ionawr 2004). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 18 Awst 2021.
- ↑ (Saesneg) "Afghan vice president says he is "caretaker" president", Reuters (17 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 18 Awst 2021.
- ↑ (Saesneg) "Panjshir flies flag of resistance again; Amrullah says he is President of Afghanistan", The Tribune (17 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 19 Awst 2021.