Griffith Davies
Griffith Davies | |
---|---|
Ganwyd | 5 Rhagfyr 1788 Llandwrog |
Bu farw | 25 Mawrth 1855 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actiwari |
Plant | Sarah Dew, Griffith Davies |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Mathemategwr ac actiwari o Gymru oedd Griffith Davies (5 Rhagfyr 1788 – 21 Mawrth 1855[1]. Roedd yn fab i Owen Dafydd a Mary Williams.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni yn y Ty Croes, Llandwrog. Oherwydd yr amgylchiadau gwasgedig yn niwedd y 18g roedd rhaid iddo fynd i weithio yn gynnar, gyda ffermwyr i ddechrau, ac yn chwarel y Cilgwyn wedi hynny. Ar ôl ennill tipyn o arian fe aeth am dymor i ysgol Evan Richardson yng Nghaernarfon. Yn 1809 aeth i Lundain i wella ei Saesneg a Mathemateg. Aeth ati wedyn i agor ysgol i ddysgu mathemateg ac pynciau eraill. Mi wnaeth ef cyhoeddi llyfr "A Key to Bonnycastle's Trigonometry". Mae yna tystiolaeth i awgrymu fod Telford wedi gwneud camgymeriadau wrth gynllunio Pont y Borth dros afon Menai a bod Griffith Davies wedi ailwneud llawer o'r cyfrifiadau.
Bu farw yn 1855 a claddwyd ef ar 27 o Fawrth yng nghladdfa Abney Park, Llundain.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Llsgrau. awdurol yng Ngholeg Bangor, a rhestrau plwyf Llandwrog;
- Ll. G. Chambers, ‘Griffith Davies (1788-1855) F.R.S. Actuary‘, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1988;
- Transactions of the Royal Society for the Encouragement of Arts, Manufacture and Commerce, 38 (1820);
- Proceedings of the Royal Society. (1831);
- llyfrgell yr Inst. of Actuaries;
- papurau yn Ll. G. C., Coleg Bangor a swyddfa Guardian Royal Exchange Assurance, Llundain.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gweler y gyfres Gwyddonwyr Cymru - Scientists of Wales GPC gan Haydn Edwards)