[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Gredifael

Oddi ar Wicipedia
Gredifael
Ganwyd580 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Blodeuodd6 g Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl13 Tachwedd Edit this on Wikidata
TadIthel Hael Edit this on Wikidata

Sant o Gymru oedd Gredifael (fl. 6g). Fe'i cysylltir ag Eglwys Gredifael ar Ynys Môn. Dethlir ei ddydd gŵyl ar 13 Tachwedd, yn flynyddol.

Eglwys Gredifael a enwyd ar ôl y sant

Hanes a thraddodiad

[golygu | golygu cod]

Roedd yn fab i Ithel Hael yn ôl un traddodiad. Treuliodd gyfnod yn Hendy-gwyn ar Daf, clas gynnar a chanolfan eglwysig yn ne-orllewin Cymru.

Ei unig sefydliad yw Eglwys Gredifael, Penmynydd, Môn; enw arall ar y pentref oedd Llanredifael. Yn llan yr eglwys ceir Bedd Gredifael a chredid bod cysgu ar y maen yn iacháu'r claf. Gerllaw yr eglwys ceir Ffynnon Redifael mewn llecyn o'r enw Cae Gredifael. Fel yn achos nifer o ffynhonnau eraill yn y wlad roedd hon yn gysylltiedig â iacháu dafadennau trwy eu pigo â phin a'i thaflu i'r ffynnon wedyn.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Caerdydd, 1954). Tud. 142.