Grace Williams
Grace Williams | |
---|---|
Ganwyd | Grace Mary Williams 19 Chwefror 1906 y Barri |
Bu farw | 10 Chwefror 1977 y Barri |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfansoddwr |
Arddull | opera |
Cyfansoddwraig o Gymraes oedd Grace Mary Williams (19 Chwefror 1906 – 10 Chwefror 1977) a gysylltir â cherddoriaeth gerddorfaol yn bennaf. Fe'i hystyrir fel un o'r cyfansoddwyr benywaidd Cymreig mwyaf dylanwadol yn hanes cerddoriaeth Cymru yn ystod yr 20g. Hi oedd y gyfansoddwraig gyntaf yng Nghymru i gyfansoddi opera a'r fenyw cyntaf o wledydd Prydain i ysgrifennu sgôr ar gyfer ffilm lawn.[1]
Ymhlith ei gweithiau cerddorfaol mwyaf nodedig y mae: Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940), Sea Sketches (1944) a Penillion (1955).
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Cafodd ei geni yn y Barri yn ferch i i William Matthews Williams ac Rose Emily Richards Williams. Roedd ei rhieni yn athrawon ac roedd ei thad yn gerddor nodedig.[2] [3] Ar ôl gadael Ysgol y Sir, Y Barri, enillodd ysgoloriaeth Morfydd Owen ac aeth i Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy. Yna aeth i Goleg Brenhinol Cerddoriaeth (y Royal College of Music) yn Llundain yn 1926, ble cafodd ei dysgu gan Ralph Vaughan Williams a'i hanogodd i gofleidio cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Cymhellwyd hi i drefnu alawon gwerin gan ei chyfaill, y cyfansoddwr Benjamin Britten (1913–76) hefyd. Yn 1930 cafodd ysgoloriaeth i deithio, ac aeth i Fiena. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, symudwyd y myfrywyr i Grantham yn Swydd Lincoln, lle cyfansoddodd hi rhai o'i gweithiau cynharaf, gan gynnwys Sinfonia Concertante a'i symffoni gyntaf.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ar ôl dysgu yn Llundain am ychydig, daeth yn ôl i Gymru i weithio gyda’r BBC ac ar unwaith aeth ati i gyfansoddi trefniannau o alawon gwerin yn bennaf ar gyfer Adran Ysgolion y BBC, er bod ambell drefniant o alawon gwerin Cymreig yn dyddio o’r 1930au, er enghraifft Six Welsh Oxen Songs (1937). Hyd yma (2024) cafwyd hyd i 115 o drefniannau o alawon gwerin Cymreig gan Grace Williams.
Un o'i gweithiau mwyaf poblogaidd oedd Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940).
Bu'n dysgu yn y Camden School for Girls rhwng 1932 a 1946, lle bu wrthi'n addasu rhai o operâu Gilbert and Sullivan ar gyfer y myfyrwyr. Yn 1947, yn dilyn cyfnod o salwch, dychwelodd i’r Barri, lle gweithiodd fel cerddor llawrydd a bu'n dysgu yn achlysurol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.
Ceisiodd nawdd i gyfansoddi opera yn seiliedig ar hanes Twm o’r Nant (Thomas Edwards) neu Dic Penderyn (Richard Lewis) rai blynyddoedd cyn cyfansoddi ‘The Parlour’, ond methodd.
Yn 1949, ysgrifennodd y gerddoriaeth ar gyfer y ffilm nodwedd Blue Scar, y fenyw gyntaf o wledydd Prydain i gyfansoddi ar gyfer ffilm lawn.[1] Treuliodd chwe blynedd, rhwng 1960 a 1966, yn sgwennu ei hunig opera The Parlour, a chafodd ei pherfformio[4] ar 5 Mai 1966 yn y Theatr Newydd, Caerdydd, gan y WNO a Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham fel rhan o double bill gydag Il Tabarro (The Cloak) gan Puccini. Yna, teithiodd y cwmni i yn Landudno yn Awst 1966 lle recordiwyd y perfformiad ar gyfer y BBC Music Programme ac a ddarlledwyd yn Nhachwedd 1966, yr unig recordiad o’r opera sydd ar gael hyd heddiw (2024).
Grace Williams oedd y gyfansoddwraig gyntaf yng Nghymru i gyfansoddi opera. Defnyddiodd y stori fer ‘En Famille’ gan y nofelydd a’r dychanwr Ffrengig Guy de Maupassant (1850–93) fel sail ar gyfer ysgrifennu ei libreto ei hun ar gyfer ‘The Parlour’. Rhaid cofio, fodd bynnag, y cafwyd sawl opera cyn ‘The Parlour’ a oedd yn ymdrin â themâu Cymreig, er enghraifft Blodwen (Joseph Parry), Tir Na Nog (David de Lloyd) a The Black Ram (Ian Parrott),
Caiff ei chysylltu â cherddoriaeth gerddorfaol yn bennaf a'i hystyried fel un o'r cyfansoddwyr benywaidd Cymreig mwyaf dylanwadol yn hanes cerddoriaeth Cymru yn ystod yr 20g[5].
Gweithiau coll
[golygu | golygu cod]Yn 2024, cyhoeddwyd bod rhagor o waith Grace Williams wedi eu canfod mewn ystordy yn y Barri, yn sgil gwaith myfyrwraig o Brifysgol Bangor, gan gynnwys casgliad o ddeg alaw Gymreig, sy'n cynnwys 'Hun Gwenllian', 'Bwlch Llanberis' a 'Dwfn yw'r môr'.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dioddefodd o iselder a phroblemau iechyd eraill.
Gwrthododd dderbyn OBE am wasanethau i gerddoriaeth yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 1967.
“ |
Ystyriaf fy hun yn ffodus iawn o gael fy ngeni'n Gymraes.[6] |
” |
Bu farw yn 70 mlwydd oed yn 1977.
Neilltuodd BBC Radio 3 eu heitem Cyfansoddwr yr Wythnos iddi yn ail hanner mis Awst 2006. O ganlyniad, cafwyd nifer o berfformiadau o weithiau nas perfformiwyd, gan gynnwys ei Choncerto Fiolin.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Gwaith
[golygu | golygu cod]Roedd llawer o waith Grace Williams yn clymu gyda cherddoraieth gwerin Gymreig, fel ei darn enwocaf, Fantasia on Welsh Nursery Tunes. Dyma rhestr o’i gwaith:
- Theseus and Ariadne, bale (1935)
- Four Illustrations for the Legend of Rhiannon, cerddorfa (1939)
- Fantasia on Welsh Nursery Tunes, cerddorfa (1940)
- Sinfonia Concertante, piano a cherddorfa (1941)
- Symffoni rhif 1 (1943)
- Sea Sketches, cerddorfa linynnol (1944)
- Concerto Piano (anorffenedig) (1949)
- The Dark Island, cerddorfa linynnol (1949)
- Concerto Feiolin (1950)
- Variations on a Swedish Tune, piano a cherddorfa (1950)
- The Dancers (1951)
- Hiraeth, telyn (1951)
- Three Nocturnes, 2 piano (1953)
- Seven Scenes for Young Listeners, cerddorfa (1954)
- Penillion, cerddorfa (1955)
- Symffoni rhif 2 (1956, diwygiedig 1975)
- All Seasons shall be Sweet (1959)
- The Parlour, opera (ar ôl Guy de Maupassant) (1961)
- Processional, cerddorfa (1962, diwygiedig 1968)
- Concerto Trumped (1963)
- Carillons, obo a cherddorfa (1965)
- Severn Bridge Variations: Amrywiad 5, cerddorfa (1966)
- Ballads, cerddorfa (1968)
- Castell Caernarfon, cerddorfa (1969)
- Missa Cambrensis (1971)
- Ave Maris Stella, côr SATB (1973)
- Fairest of Stars, soprano a cherddorfa (1973)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Jan G. Swynnoe (2002). The Best Years of British Film Music, 1936–1958. Boydell Press. tt. 89–. ISBN 978-0-85115-862-4.
- ↑ Griffiths, Rhidian. "WILLIAMS, GRACE MARY (1906-1977), cyfansoddwraig". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2020-06-11.
- ↑ Steph Power (8 Mawrth 2016). "WOMEN COMPOSERS OF WALES: BBC NOW, TŶ CERDD, BANGOR NEW MUSIC FESTIVAL". Wales Arts Review. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2016.
- ↑ Roberts, Maddy Shaw (7 Mawrth 2019). "This Welsh female composer's beautiful music was lost for years – but now it is being performed again". Classic FM (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-11.
- ↑ [O’r ymylon i’r canol: ailystyried taith gerddorol Grace Williams; erthygl gan Elain Jones. Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor Cyflwynwyd: 25 Ebrill 2024; adalwyd 3 Rhagfyr 2024.
- ↑ [O’r ymylon i’r canol: ailystyried taith gerddorol Grace Williams; erthygl gan Elain Jones. Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor Cyflwynwyd: 25 Ebrill 2024; adalwyd 3 Rhagfyr 2024.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- Tudalen Tŷ Cerdd Archifwyd 2019-06-14 yn y Peiriant Wayback