[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Gruffydd Dwnn

Oddi ar Wicipedia
Gruffydd Dwnn
Ganwydc. 1501, 1500 Edit this on Wikidata
Bu farw1570s, 1570 Edit this on Wikidata
Man preswylCydweli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd, bardd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd1547-1552 Edit this on Wikidata

Uchelwr o Gymru ac un o noddwyr Beirdd yr Uchelwyr oedd Gruffydd Dwnn (c. 1500 - c. 1570) a'r enwocaf o Ddwniaid Sir Gaerfyrddin. Cartrefodd ym mhlasty Ystrad Merthyr, ger Cydweli, a godwyd yn 1518, yn 1533.[1] Ef oedd ail fab Owain ap Robert Done o Ystrad Merthyr.

Er iddo gael wyth o blant gan ddwy wraig, bu farw nifer ohonynt. Priododd Ellen cyn 1522, merch Henry ap Sion ap Harri o Rhydarwen a chawsant bedwar mab. Yna priododd eilwaith (cyn 1533): Gwenllian, merch Lewis ap Thomas ap Sion a chawsant dau fab a dwy ferch.[2] Bu ef, ei deulu a'i gartref yn destun nifer o gerddi gan rai o feirdd y cyfnod gan gynnwys: Harri ap Rhys ap Gwilym, Syr Owain ap Gwilym, Wiliam Llŷn, Tomas Fychan ac Owain Gwynedd. Gwnaeth y Dwniaid eu harian drwy ryfel a gweinyddu, gan fwayaf y ganrif gynt.

Cedwir y cerddi hyn yn Llawysgrifau Llansteffan 40 a 133, ac llawgryrif y Llyfrgell Genedlaethol 728. Yr anerchiad olaf iddo oedd yn 1566 gan Wiliam Cynwal. Casglai gyfrolau Cymraeg ac gwyddom fod ganddo 64 ohonynt yn 1564. Bu Llyfrgellydd y Brenin yn ymweld ag ef: John Leland, yn ogystal â William Salesbury.

Swyddi

[golygu | golygu cod]

Bu'n feili Caerfyrddin rhwng 1535-6, henadur yn 1555 ac yn faer yn 1549 ac eto yn 1556. Bu hefyd yn siryf : 1546-7, 1555-6 a rhwng 1559-60; bu'n siedwr 1548-9 ac yn feili Cydweli tua 1560.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
  • Lewys Dwnn (bl. 1568 - 1616): bardd Cymraeg ac achyddwr.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]