George Maitland Lloyd Davies
George Maitland Lloyd Davies | |
---|---|
Ganwyd | 30 Ebrill 1880 Lerpwl |
Bu farw | 16 Rhagfyr 1949 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, banciwr, gweinidog gyda'r Methodistiaid |
Swydd | Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig |
Gwleidydd a heddychwr oedd George Maitland Lloyd Davies neu George M. Ll. Davies fel roedd yn cael ei adnabod (30 Ebrill 1880 - 16 Rhagfyr 1949).
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Davies yn Peel Road, Sefton Park, Lerpwl, yn bedwerydd mab bu fyw, i John Davies (1837-1909), marsiandwr te, a Gwen, née Jones (1839-1918). Roedd yn ŵyr y pregethwr John Jones, Talysarn a brawd y cerddor John Glyn Davies.Roedd y teulu yn rhan amlwg o gymdeithas a diwylliant Cymreig a Chymraeg y ddinas ac yn aelodau o gapel MC Princes Road. Cafodd bywyd cynnar Davies ei effeithio gan fethdaliad ei dad ym 1891.[1][2]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ar 5 Chwefror 1916 priododd Eleanor Leslie Royde Smith (1884-1973), chwaer y nofelydd Naomi Royde Smith, yn Finchley; bu iddynt un plentyn, Jane Hedd.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi ymadael a'r ysgol yn 16 oed aeth i weithio i Fanc Martin's yn Lerpwl gan gael ei ddyrchafu yn ysgrifennydd y rheolwr. Ym 1908 cafodd ei benodi yn rheolwr Banc Martin's Wrecsam. Yn ystod ei gyfnod yn Wrecsam fe fu yn swyddog yn y fyddin diriogaethol. Ym 1913 wedi pwl o salwch meddwl ymddiswyddodd o'r banc; tua'r un cyfnod daeth i sylwi nad oedd modd iddo ladd eraill gan hynny fe ymddiswyddodd o'r fyddin hefyd. Cafodd ei benodi yn ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Cynllunio a Thai Cymru.[2]
Rhyfel Byd Cyntaf
[golygu | golygu cod]Ar doriad y Rhyfel Byd Cyntaf bu Davies yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymod cymdeithas a oedd yn hyrwyddo cymod heddychlon rhwng unigolion fel modd i wrthwynebu rhyfel. Bu Davies yn gweithio i'r gymdeithas yn Llundain am gyfnod.
Pan gyflwynwyd gwasanaeth milwrol gorfodol ym 1916, ymddangosodd Davies o flaen Tribiwnlys Milwrol yn Finchley gan hawlio ei fod yn Wrthwynebydd Cydwybodol[3] a chafodd ei ryddhau yn ddiamod, cafodd ei alw o falen Tribiwnlys Westminster lle cafodd ei ryddhau ar yr amod ei fod yn gwneud gwaith dyngarol o dan nawdd Cymdeithas y Cyfeillion, gan hynny aeth i weithio i gartref ar gyfer pobl ifanc tramgwyddus ym Melton Mowbray. Cafodd ei alw o flaen y Tribiwnlys Canolog lle cafodd ei ryddhau i gyflawni gwaith amaethyddol gan weithio fel bugail yn Llanaelhaearn am gyfnod.
Ym mis Medi 1917 gofynnodd Davies i'r Tribiwnlys Ganolog am ryddhad oddi wrth amodau ei ryddhau o wasanaeth milwrol, ond gwrthodwyd hynny, ymateb Davies oedd nad oedd yn fodlon barhau i gadw at yr amodau, gan hynny cafodd ei ryddhad amodol ei wyrdroi a chafodd ei orchymyn i ymuno a'r fyddin. Gwrthododd, a chafodd ei garcharu o fis Ionawr 1918 hyd Fis Mehefin 1919 yng Ngharchardai Woormwood Scrubs, Dartmoor a Knutsford.[4][5]
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Ar gais Thomas Jones aeth Davies i'r Iwerddon sawl gwaith rhwng 1920 a 1921 i geisio creu amodau trafodaethau rhwng Éamon de Valera a Lloyd George fe lwyddodd i gael cyfarfod gyda De Valera ac i sicrhau bod dirprwyaeth Wyddelig (ond nid de Valera, ei hun) yn cyfarfod gyda'r brif weinidog.[2]
Ym 1923 etholwyd Davies i'r Senedd[6] fel heddychwr Cristionogol annibynnol ar gyfer etholaeth Prifysgol Cymru. Cymerodd chwip y Blaid Lafur, heb ymuno a'r blaid gan ddymuno cadw'r rhyddid i siarad a gweithredu yn ôl ei gydwybod. Collodd y sedd yn yr etholiad canlynol ym 1924.[2]
Gweinidog yr Efengyl
[golygu | golygu cod]Ym 1926 cafodd Davies ei ordeinio yn weinidog gydag enwad y Methodistiaid Calfinaidd gan wasanaethu fel bugail eglwysi yn Nhywyn a Chwm Maethlon yn Sir Feirionnydd.[1][7]
Ym 1937 sefydlodd cymdeithas Heddychwyr Cymru gan wasanaethu fel ei Lywydd gan gyd weithio yn agos a Gwynfor Evans, ysgrifennydd y mudiad.
Gyda thwf Ffasgiaeth ar y cyfandir a'r tebygolrwydd o Ail Ryfel Byd yn cychwyn, bu Davies yn hynod weithgar yn cyhoeddi pamffledi, erthyglau a llythyrau yn annog cymod a heddwch.
Rhwng 1946 a 1949 bu'n gwasanaethu fel cadeirydd Undeb yr Addewid Heddwch[8]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu G M Ll yn dioddef o iselder drwy gydol ei fywyd fel oedolyn; ym 1949 aeth i dderbyn triniaeth fel claf gwirfoddol yn Ysbyty Meddwl Gogledd Cymru, Dinbych lle gyflawnodd weithred o hunanladdiad ar 16 Rhagfyr, 1949.[2]
Claddwyd ei weddillion yn Nolwyddelan, pentref gartref ei deulu.[1]
Llyfrau
[golygu | golygu cod]Awdur
[golygu | golygu cod]- Yr ail bistyll-detholiad gan Albert Evans-Jones (Cynan) o ganeuon J. T. Williams, Pistyll; gydag adgofion gan George M. Ll. Davies, Caernarfon 1922
- The Politics of Grace, Llundain 1925
- Ffordd y Cymod, Dinbych 1938
- Cenhadon hedd, Dinbych 1942
- Religion and the Quest for Peace, Llundain 1922
- Joseph Rowntree Gillett: a memoir with some selections from travel letters and articles, Llundain 1942
- Gandhi a Chenedlaetholdeb India, Dinbych 1942
- Pererindod Heddwch, Dinbych 1943[9]
- Profiadau Pellach (pererindod heddwch II). Dinbych 1943
- Triniaeth Troseddwyr, Dinbych 1945.
- Essays towards peace, Llundain 1946
- Atgofion am Dalysarn gan Fanny Jones, Machynlleth (golygydd), Dinbych 1947. [10]
Amdano
[golygu | golygu cod]- George M. Ll. Davies: pererin heddwch, gan Gwynfor Evans, 1980
- Rhyw ymarferol frawd: portread llwyfan o George M. LL. Davies, Harri Parri 1987
- Troi'r cledd yn gaib : cenhadaeth George M. Ll. Davies gan Byron Howells, Bangor 1988
- The Sun in Splendour': George M. Ll. Davies (1880-1949), Jen Llywelyn, Prifysgol Aberystwyth 2010
- Pilgrim of Peace: A Life of George M.Ll. Davies, Jen Llywelyn, Y Lolfa, 2016
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Y Bywgraffiadur ar lein, DAVIES, GEORGE MAITLAND LLOYD (1880-1949 ) [1] adalwyd 12 Rhagfyr 2015
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Jen Llywelyn and Paul O'Leary, ‘Davies, George Maitland Lloyd (1880–1949)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, May 2011 adalwyd 12 Rhagfyr 2015
- ↑ Cymru yn y Rhyfel Gwrthwynebwyr Cydwybodol [2] Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 12 Rhagfyr 2015
- ↑ "MR GEORGE DAVIES - Y Dinesydd Cymreig". s.t. 1917-12-12. Cyrchwyd 2015-12-12.
- ↑ "MAWRHYDI CYDWYBOD - Gwyliedydd Newydd". Lewis Davies. 1918-01-08. Cyrchwyd 2015-12-12.
- ↑ James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru Papurau George M. Ll. Davies [3] Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 12 Rhagfyr 2015
- ↑ About the Peace pledge Union [4] adalwyd 12 Rhagfyr 2015
- ↑ Pererindod Heddwch ar Wicidestun
- ↑ Atgofion am Dalysarn ar Wicidestun
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Thomas Arthur Lewis |
Aelod Seneddol dros Brifysgol Cymru 1923 – 1924 |
Olynydd: Ernest Evans |