Gaeltacht
Math | rhanbarth, endid tiriogaethol gweinyddol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Enw Gwyddeleg yw'r Gaeltacht (ynganiad: /ˈgeːɫ̪t̪ˠəxt̪ˠ/; lluosog Gaeltachtaí) am yr ardaloedd yn Iwerddon lle siaredir Gwyddeleg fel y brif iaith, neu fel iaith gymunedol naturiol. Nifer o ardaloedd gwledig wedi'u gwasgaru ar draws saith o siroedd ydyw.
Gydlynir llawer o waith datblygu a chynllunio a chynrychioli'r Gaeltachtaí gan Údarás na Gaeltachta.
Mae'r Gaeltachtaí mwyaf yn siroedd:
- Gaeltacht Dún na nGall
- Gaillimh (Saesneg: Galway).
Mae ardaloedd Gaeltacht llai yn siroedd:
- Maigh Eo (Saesneg: Mayo)
- Corcaigh (Saesneg: Cork)
- Gaeltacht Corca Dhuibhne a Gaeltacht Uíbh Ráthaigh, Swydd Ciarraí (Saesneg: Kerry)
- na nDéise (pentref An Rinn yn Port Láirge (Saesneg: Waterford)
- Ráth Cairn a Baile Ghib yn an Mhí (Saesneg: Meath).
Mae gan yr ardaloedd Gaeltacht gydnabyddiaeth swyddogol (arwyddion ffordd uniaith Wyddeleg ayb.) ond mae'r Gaeltacht swyddogol yn cynnwys rhai ardaloedd sydd wedi troi yn Saesneg erbyn hyn.
Gaeltacht Ddinesig Belffast
[golygu | golygu cod]Yn 1969 cychwynnodd criw o gyfeillion ac eiriolwyr dros yr iaith Wyddeleg, ymdrech i sefydlu Gaeltacht yng nghannol dinas Belffast. Seiliwyd y mudiad o amgylch ardal Shaw's Road yng Ngorllewin Belffast. Yn 1971 sefydlwyd ysgol gynradd Wyddeleg, yr ysgol cyfrwng Gwyddeleg gyntaf ar diriogaeth gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon, ac, yn ôl rhai y Gaeltacht ddinesig gyntaf mewn can mlynedd. O'r hedyn yma agorwyd Cultúrlann McAdam Ó Fiaich yn 1991, ysgol uwchradd ac, ar una deg papur newydd dyddiol Lá. Mae nawr yn sail ar gyfer yr hyn a elwir yn Cwarter Belffast.[1]
Trefi Gwasanaethu'r Gaeltacht
[golygu | golygu cod]Yn dilyn Deddf y Gaeltacht (2012) ehangwyd y strategaeth i gryfhau'r Gaeltacht a'r iaith Wyddeleg. Ymysg sefydliadau eraill, sefydlwyd 'Trefi Gwasanaethu'r Gaeltacht' lle bydd tref gymudo neu ddinas gyfagos yn darparu gwasanaethau craidd ac arbennig yn yr iaith i'w thrigolion a thrigolion y Gaeltacht gyfagos. Ymysg y trefi yma mae Gaillimh, Letterkenny, Corc, Dún Garbhán ac eraill.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Foras na Gaeilge
- Gaelphobal - corff yn cyfuno strategaeth iaith mewn ardaloedd trefol tu allan i'r Gaeltacht
- Cwarter Gaeltacht, Belffast
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Pobal Bhóthar Seoighe: Story of the Shaws Road Gaeltacht told in BBC documentary". BelfastMedia. 13 Mai 2020.