Brithribin porffor
Brithribin porffor | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Lycaenidae |
Genws: | Neozephyrus |
Rhywogaeth: | N. quercus |
Enw deuenwol | |
Neozephyrus quercus (Linnaeus, 1758) |
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw brithribin porffor, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy brithribiniau porffor; yr enw Saesneg yw Purple Hairstreak, a'r enw gwyddonol yw Neozephyrus quercus.[1][2] Prif fwyd y siani flewog ydy Quercus robur, Quercus petraea, Quercus cerris a Quercus ilex.
Gwelir yr oedolyn bychan hwn yn aml yn fflapian rhwng brigau a dail uchel y dderwen yng Ngorffennaf a dechrau Awst. Mae gan y gwryw haen borffor ar ran uchaf ei adenydd ac mae gan y fenyw ddau smotyn bychan o'r lliw hwn. Mae'n eitha cyffredin yng Nghymru ac yn ne a chanol Lloegr ond yn brin iawn yn yr Alban ac Iwerddon.
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r brithribin porffor yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Cofnodion unigol
[golygu | golygu cod]- Yn ystod haf poeth poeth 1976 cafwyd (DB) nifer o rhain yn hedfan dros y grug ym Mwlch Drws Ardudwy, Meirionnydd, ymhell iawn o’u cynefin arferol ar frig coed derw (chwilio am ddŵr meddai un gwybodusyn ar y pryd). Cafwyd cofnod tebyg ar 14 Gorffennaf 2019 o ardal Golan (Cwm Ystradllyn) ar ôl cyfnod hir o sychder a straen canlynol ar goed, a phyliau anarferol o wres (yn nodedig gwres mawr 28 Mehefin 2019).[3]
- 31 Awst 1992: Brithribin porffor yn niferus yn Abergwyngregyn - gweld sawl tro - canol Awst hyd ddiwedd y mis [2]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ Dafydd Paul yng ngrwp Facebook Cymuned Llên Natur dyddiedig 15 Gorffennaf 2019 [1]