Brigyn
Deuawd cerddoriaeth acwstig Cymraeg o bentref Llanrug ger Caernarfon yw Brigyn, a sefydlwyd yn 2004 ac sy'n cynnwys dau frawd: Ynyr ac Eurig Roberts. Daeth enw'r band o chwarae ar lythrennau eu henwau (Brodyr Eurig Ynyr). Buont ill dau, hefyd yn aelodau o'r band Epitaff.[1] Lansiwyd eu hail albwm mewn coeden yn Llanymddyfri.[2]
Cymysgedd o gerddoriaeth werin fodern, samplau cerddorol a churiadau electronig sydd i'w glywed gan y brodyr. Mae amrywiaeth eu dylanwadau cerddoroal yn helaeth - o sŵn electronig Bjork, i sŵn gwerinol Simon & Garfunkel ac i gyfansoddwyr clasurol yr 20g. Yn dilyn llwyddiant eu halbwm cyntaf yn 2004 a'r ail yn 2005, bu'r ddau frawd yn teithio o amgylch San Fransisco ac Iwerddon. Yn ystod 2006 fe ryddhaodd y brodyr gasgliad o ganeuon prin ar finyl ac ar iTunes. Yna yn 2007 rhyddhawyd eu halbwm Ailgylchu. Yn ogystal â chyfnodau o deithio a pherfformio'n fyw (gan gynnwys llwyfan Gŵyl y Dyn Gwyrdd) bu'r ddau hefyd yn y stiwdio'n recordio eu trydydd albwm llawn. Yna, ar ddiwedd 2008, wedi iddynt lwyddo i dderbyn caniatâd Leonard Cohen, rhyddhawyd fersiwn Cymraeg arbennig o'r gân fyd-enwog 'Hallelujah'. Lansiwyd eu cynnyrch Saesneg cyntaf yn 2010 a hynny ar Fawrth y 1af gyda'i sengl 'One Way Streets', a'r sengl 'Home/ I Need All The Friends I Can Get' ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn. Rhyddhawyd Brigyn 4 yn Nhachwedd 2014, a Dulog yn Rhagfyr 2015.
Disgograffi
[golygu | golygu cod]Albymau
[golygu | golygu cod]- Brigyn - 24 Tachwedd 2004 (Gwynfryn Cymunedol)
- Brigyn 2 - 2 Hydref 2005 (Gwynfryn Cymunedol)
- Ailgylchu - 6 Awst 207 (Gwynfryn Cymunedol)
- Brigyn 3 - 26 Mai 2008 (Gwynfryn Cymunedol)
- Brigyn 4 - 24 Tachwedd 2014 (Gwynfryn Cymunedol)
- Dulog - 5 Rhagfyr 2015 (Gwynfryn Cymunedol)
EP/Sengl
[golygu | golygu cod]- Brigyn Bach - 11 Tachwedd 2006 (Gwynfryn Cymunedol)
- Haleliwia - 24 Tachwedd 2008 (Gwynfryn Cymunedol)
- Yr Arth a'r Lloer - 30 Tachwedd 2009 (Gwynfryn Cymunedol)
- One Way Streets - 1 Mawrth 2010 (Gwynfryn Cymunedol)
- Home/I need all the friends I can get (Sengl) - 1 Rhagfyr 2010 (Gwynfryn Cymunedol)
Casgliadau
[golygu | golygu cod]Dolenni Allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol
- Proffil a fideoy band[dolen farw] ar wefan Bandit
- Gwefan videos swyddogol
- Proffil y band gan BBC Cymru
- 'Stori Tu ôl i'r Gân': Haleliwia