Brynach Wyddel
Brynach Wyddel | |
---|---|
Sant Brynach. Ffenestr gwydr lliw yng Nghapel Non, Eglwys Gadeiriol Tyddewi | |
Ganwyd | Gweriniaeth Iwerddon |
Bu farw | 6 g Nanhyfer |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cenhadwr, arweinydd crefyddol |
Dydd gŵyl | 7 Ebrill |
Priod | Cymorth |
Plant | Mynfer ach Brynach, Morwenna, Mabyn ach Brynach, Endelyn ach Cynyr |
Sant o ddechrau'r 6g oedd Brynach Wyddel.
Hanes a thraddodiadau
[golygu | golygu cod]Ceir buchedd iddo yn dyddio o'r 12g, lle dywedir iddo fynd ar bererindod i Rufain ac yna fyw yn Llydaw am gyfnod cyn symud i Gymru. Dywedir iddo lanio yn Aberdaugleddau yn Nyfed, ac yna ymsefydlu ger Afon Nanhyfer. Dywed traddodiad arall iddo fod yn gaplan i Frychan, brenin Brycheiniog. Enwyd nifer o leoedd ar ei ôl, yn cynnwys Llanfrynach ym Mhowys a Llanfyrnach yn sir Benfro.
Adroddir nifer o chwedlau amdano. Dywedir fod ganddo fuwch oedd yn rhoi cymaint o laeth nes bod digon i'r myneich i gyd, a blaidd dof yn ei gwarchod. Un diwrnod daeth Maelgwn Gwynedd a'i osgordd ar ymweliad, gan fynnu cael eu bwydo. Pan wrthdododd Brynach, lladdasant y fuwch, ond pan geisiasant goginio'r cig, ni allent gael y dŵr i ferwi. Sylweddolodd Maelgwn ei fai ac ymddiheruodd. Adferodd Brynach y fuwch, a gwnaeth i wledd wyrthiol ymddangos, gan dynnu bara o frigau'r coed.
Dethlir ei ddydd gŵyl ar 7 Ebrill.