Bryn Mawr, Pennsylvania
Math | lle cyfrifiad-dynodedig, cymuned heb ei hymgorffori |
---|---|
Poblogaeth | 5,879 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Montgomery County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 1.641912 km², 1.641905 km² |
Uwch y môr | 128 metr |
Cyfesurynnau | 40.0211°N 75.3169°W |
Cod post | 19010 |
Cymuned yn nhalaith Pennsylvania, Unol Daleithiau America, yw Bryn Mawr. Rhennir y gymuned rhwng Radnor Township a Haverford Township yn Delaware County, a Lower Merion Township ym Montgomery County. Saif ychydig i'r gorllewin o ddinas Philadelphia.
Rhoddwyd tir ym Mhennsylvania i William Penn gan y brenin Siarl I ym 1683, ac roedd Bryn Mawr yn rhan o'r tir hwn. Prynodd Rowland Ellis o Fryn Mawr, Dolgellau 800 erw oddi wrth Penn, ac adeiladodd blasdy yno. Enwyd y lle yn "Bryn Mawr", ar ôl ei fferm yn Sir Feirionydd. Datblygodd tref fach o'r enw Humphreyville, ar ôl perthnasau Rowland Ellis o'r enw "Humphrey".
Mae'r ardal yn enwog am Goleg Bryn Mawr, un o'r colegau hynaf i ferched yn yr Unol Daleithiau.
Ym 1932, adeiladwyd rheilffordd rhwng Philadelphia a Lancaster, Pennsylvania ac ym 1869 dewiswyd Bryn Mawr yn enw i'r orsaf reilffordd leol, yn hytrach na Humphreyville[1]
Mae Gorsaf reilffordd Bryn Mawr ar lein SEPTA Paoli-Thorndale[2]
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Jim Croce, cerddor
- Katharine Hepburn, actores; cyn-ddisgybl Coleg Bryn Mawr
- Jayne Mansfield, actores
- Teddy Pendergrass, canwr
- Woodrow Wilson, cyn-arlwydd yr Unol Daleithiau; cyn-athro yng Ngholeg Bryn Mawr[3]
- Warren Zevon, cerddor
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tudalen hanes ar wefan Brynmawr
- ↑ Gwefan SEPTA
- ↑ Henry Wilkinson Bragdon, Woodrow Wilson: The Academic Years (Cambridge, MA: Belknap Press, 1960)
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Arwydd Bryn Mawr Avenue
-
Swyddfa'r post
-
Canol y dref
-
Sinema
-
Arwydd Ysbyty Bryn Mawr