Brwydr Edgecote Moor
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 26 Gorffennaf 1469 |
Rhan o | Rhyfeloedd y Rhosynnau |
Lleoliad | Swydd Northampton |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Rhanbarth | Chipping Warden and Edgcote, Culworth, Thorpe Mandeville |
Un o frwydrau Rhyfel y Rhosynnau oedd Brwydr Edgecote Moor neu Frwydr Banbri a ymladdwyd ar 26 Gorffennaf 1469 rhwng Richard Neville, 16ed Iarll Warwick ac Edward IV; gyda Richard yn cipio Coron Lloegr. Roedd Richard a George Plantagenet (brawd y brenin) wedi cynllwynio'r frwydr ers peth amser; roedd Warwick yn anhapus â'r dylanwad oedd gan deulu'r Woodville (teulu yng nghyfraith y brenin) ar Edward IV. Roedden nhw hefyd yn anfodlon gyda'r grym a'r arian a roddodd y brenin i William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469).
Llysenw un o gapteiniaid Clarence oedd 'Robin of Redesdale'.
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Roedd maes y gad 6 milltir (9.7 km) i'r gogledd-ddwyrain o Banbury, yng ngogledd Swydd Rydychen; saif heddiw ym mhlwyf Chipping Warden ac Edgcote, ar y ffin rhwng Swydd Warwick a Swydd Northampton. Yr adeg honno, fodd bynnag, roedd y rhyd ar afon Cherwell, sef canolbwynt y frwydr, yn Swydd Northampton.
Canlyniad
[golygu | golygu cod]Daliwyd William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469) a'i frawd Syr Richard Herbert a dienyddiwyd y ddau'n gyhoeddus trannoeth y frwydr a iarll Devon y diwrnod wedyn.[1]
Awgryma'r bardd Guto'r Glyn mewn cerdd a elwir yn 'marwnad i Herbert' fod Stafford wedi dianc am ei fywyd o faes y gad, a gorfoledda'r bardd yn y ffaith na fu byw yn hir wedyn:
- Arglwydd difwynswydd Defnsir
- A ffoes – ni chafas oes hir!
Ystyr hyn yw: 'Ffoi a wnaeth arglwydd Dyfnaint, di-elw ei wasanaeth – ni chafodd oes hir!'[2]
Yn yr un gerdd, cymhara Guto'r frwydr â 'Dawns Angau':
- Dawns o Bowls! Doe'n ysbeiliwyd,
- Dwyn yr holl dynion i'r rhwyd.
- Dawns gwŷr Dinas y Garrai,
- Dawns yr ieirll: daw'n nes i rai!
- Duw Llun y bu waed a lladd,
- Dydd amliw, diwedd ymladd.
- Duw a ddug y dydd dduw Iau
- Iarll Dwywent a'r holl Deau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Buckinghams Retinue". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-07. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ gutorglyn.net; Archifwyd 2022-06-30 yn y Peiriant Wayback adalwyd 4 Chwefror 2017.