Bluey (cyfres deledu)
Enghraifft o'r canlynol | cyfres deledu animeiddiedig |
---|---|
Crëwr | Joe Brumm |
Gwlad | Awstralia, y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America |
Dechreuwyd | 1 Hydref 2018 |
Genre | cyfres deledu comig, cyfres deledu i blant |
Cymeriadau | Bluey Heeler, Bingo Heeler, Bandit Heeler, Chilli Heeler |
Yn cynnwys | Bluey, series 1, Bluey, series 2, Bluey, series 3 |
Lleoliad y gwaith | Brisbane |
Hyd | 7 munud |
Cwmni cynhyrchu | Ludo |
Cyfansoddwr | Joff Bush, David Barber |
Dosbarthydd | Disney+ |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Gwefan | https://www.bluey.tv/ |
Cyfres deledu animeiddiedig o Awstralia yw Bluey. Crëwyd y rhaglen gan Joe Brumm ac fe’i cynhyrchir gan gwmni Ludo Studio o Queensland . Fe’i comisiynwyd gan Gorfforaeth Ddarlledu Awstralia a’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, gyda BBC Studios yn dal hawliau dosbarthu a marchnata byd-eang.
Mae’r sioe yn dilyn Bluey, ci bach Blue Heeler chwe blwydd oed anthropomorffig, sy'n byw gyda thad, Bandit; mam, Chilli; a'r chwaer iau, Bingo. Mae pob un o'r cymeriadau eraill yn cynrychioli brîd ci gwahanol. Mae themâu trosfwaol yn cynnwys y ffocws ar deulu, tyfu i fyny a diwylliant Awstralia (Lleolir y sioe yn Brisbane, Queensland).
Mae Bluey wedi cael sgoriau cyson uchel yn Awstralia ac yn rhyngwladol, ar deledu darlledu a gwasanaethau fideo ar alw. Mae'r sioe wedi ennill llawer o wobrau[1], ac wedi cael ei chanmol gan feirniaid teledu am ei darlunio o fywyd teuluol modern bob dydd, darluniau magu plant dyrchafol, peidio ag enwi'r actorion sy'n blant, ddefnyddiwyd a darluniau cadarnhaol o rianta, a cherddoriaeth.
Mae gan y sioe dair cyfres, y dechrau cyntaf yn 2018. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw dub swyddogol Cymraeg yn bodoli, er bod y sioe ar gael mewn nifer o ieithoedd eraill, yn fwyaf nodedig y dub Saesneg gwreiddiol o Awstralia.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Y Cymro yn Awstralia sy'n dylunio cartŵn Bluey". BBC Cymru Fyw. 2023-03-28. Cyrchwyd 2023-07-12.