Bernhard Schlink
Bernhard Schlink | |
---|---|
Ganwyd | 6 Gorffennaf 1944 Bielefeld |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Addysg | Doethur mewn Cyfraith |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | cyfreithegwr, barnwr, nofelydd, sgriptiwr, academydd, bardd-gyfreithiwr |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | The Reader, Flights of love, Q24007898, Q1213328, Q123856863 |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen |
Tad | Edmund Schlink |
Perthnasau | Basilea Schlink, Klaus Engelhardt |
Gwobr/au | Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Hans Fallada, Gwobr Friedrich Glauser, German Crime Fiction Award, Evangelischer Buchpreis, Pak Kyong-ni Prize, Honorary Award of the Heinrich Heine Society |
Gwefan | https://schlink.rewi.hu-berlin.de |
llofnod | |
Mae Bernhard Schlink (ganwyd 6 Gorffennaf 1944 yn Bielefeld, yr Almaen) yn gyfreithwr ac yn awdur Almaeneg. Daeth ei nofel Der Vorleser, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1995, yn werthwr-gorau rhyngwladol.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni i dad Almaeneg (Edmund Schlink) a mam o'r Swistir, yr ieuengaf o bedwar o blant. Roedd ei fam, Irmgard, wedi bod yn fyfyrwraig ddiwinyddiaeth i'w dad, a phriodon nhw ym 1938. (Bu farw gwraig gyntaf Edmund Schlink ym 1936.) Bu tad Bernhard yn athro seminari ac yn weinidog ac yn aelod o'r "Bekennende Kirche" - eglwys Martin Niemöller. Yn 1935, cafodd ei ddiswyddo o'i swydd addysgu yn Giessen am ei feirniadaeth gyhoeddus o bolisïau'r Natsïaid. Ym 1946, daeth yn athro diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Heidelberg, lle byddai'n gweithio tan iddo ymddeol yn 1971. Cafodd Bernhard Schlink ei magu yn Heidelberg o ddwy oed ymlaen. Astudiodd gyfraith ym Mhrifysgol Rhydd Gorllewin Berlin, gan raddio ym 1968.
Daeth Schlink yn farnwr yn Llys Cyfansoddiadol talaith ffederal Gogledd Rhine-Westphalia ym 1988 ac ym 1992 yn athro cyfraith gyhoeddus ac athroniaeth y gyfraith ym Mhrifysgol Humboldt, Berlin. Ymddeolodd ym mis Ionawr 2006.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Astudiodd Schlink gyfraith ym Mhrifysgolion Heidelberg a Berlin. Bu wedyn yn athro y gyfraith ym Mhrifysgolion Bonn a Goethe, (Frankfurt) cyn dechrau ym 1992 ym Mhrifysgol Humboldt Berlin.
Dechreuodd ei yrfa fel awdur gyda nifer o nofelau ditectif gyda phrif gymeriad o'r enw Selb-yn chwarae ar y gair Almaeneg am "hunan" - y cyntaf, Selbs Justiz "Hunan Gosb", wedi'i gyd-ysgrifennu â Walter Popp. Enillodd un o'r rhain, Die gordische Schleife, Wobr Glauser yn 1989.
Ym 1995, cyhoeddodd Der Vorleser ("Y Darllenydd"), nofel am fachgen yn ei arddegau yn cael perthynas â menyw yn ei thridegau sy'n yn diflannu; ond y mae'n cyfarfod â hi eto fel myfyriwr cyfraith wrth ymweld â threial am droseddau rhyfel. Daeth y llyfr yn werthwr-gorau yn yr Almaen a'r Unol Daleithiau a chyfieithwyd i 39 o ieithoedd. Hwn oedd y llyfr Almaeneg cyntaf i gyrraedd rhif un yn rhestr y New York Times. Yn 1997, enillodd Wobr Hans Fallada, gwobr lenyddol Almaeneg, a'r Prix Laure Bataillon ar gyfer gwaith a gyfieithwyd i Ffrangeg. Yn 1999 dyfarnwyd Welt-Literaturpreis y papur newydd Die Welt iddo.
Yn 2000, cyhoeddodd Schlink gasgliad o ffuglen fer o'r enw Liebesfluchten ("Ehediadau Cariad").
Yn 2008, cyfarwyddodd Stephen Daldry addasiad ffilm Saesneg o Der Vorleser fel The Reader. Yn 2010, cyhoeddwyd ei hanes gwleidyddol ffeithiol, Guilt About the Past, gan Beautiful Books Limited.
Ar hyn o bryd mae Schlink yn rhannu ei amser rhwng Efrog Newydd a Berlin. Mae'n aelod o Ganolfan PEN yr Almaen.
Gwobrau
[golygu | golygu cod]- 1989 Friedrich-Glauser-Preis am Die gordische Schleife
- 1993 Deutscher Krimi Preis ar gyfer Selbs Betrug
- 1995 Stern des Jahres (Seren y Flwyddyn) o bapur newydd Abendzeitung (Munich) ar gyfer Der Vorleser
- 1997 Gwobr Grinzane Cavour (Eidaleg) ar gyfer Der Vorleser
- 1997 Prix Laure Bataillon (Ffrangeg) ar gyfer Der Vorleser
- 1998 Gwobr Hans Fallada ar gyfer Der Vorleser
- 1999 Welt-Literaturpreis am waith oes
- 2000 Gwobr Heinrich Heine o'r "Heinrich-Heine-Gesellschaft" yn Hamburg
- 2000 Evangelischer Buchpreis ar gyfer Der Vorleser
- 2000 Gwobr ddiwylliannol y papur newydd Mainichi Shimbun a ddyfarnwyd yn flynyddol i werthwr-gorau yn Japan, ar gyfer Der Vorleser
- 2004 Dosbarth 1af Verdienstkreuz (Teilyngdod)
- 2014 Gwobr Parc Kyong-ni (De Corea)
Gwaith llenyddol yn yr Almaeneg
[golygu | golygu cod]- 1962 Der Andere (Yr Arall)
- 1987 Selbs Justiz (Cosb Selb; gyda Walter Popp)
- 1988 Die gordische Schleife (Cwlwm Gordia), Zurich: Diogenes
- 1992 Selbs Betrug, Zurich: Diogenes
- 1995 Der Vorleser (Y Darllenydd), Zurich: Diogenes
- 2000 Liebesfluchten (Ehediadau Cariad), Zurich: Diogenes
- 2001 Selbs Mord (lofruddiaeth Selb), Zurich: Diogenes
- 2006 Die Heimkehr (Dod Adref: Nofel), Zurich: Diogenes
- 2008 Das Wochenende (Y Penwythnos: Nofel), Zurich: Diogenes
- 2010 Sommerlügen - Geschichten (Celwyddau Haf - Straeon), Zurich: Diogenes
- 2011 Gedanken über das Schreiben. Heidelberger Poetikvorlesungen. Zurich: Diogenes
- 2014 Die Frau auf der Treppe. (Nofel) Zurich: Diogenes
Gweithiau eraill yn yr Almaeneg
[golygu | golygu cod]- 1976 Abwägung im Verfassungsrecht, Berlin: Duncker und Humblot
- 1980 Rechtlicher Wandel durch richterliche Entscheidung: Beitraege zu einer Entscheidungstheorie der richterlichen Innovation, Cyd-olygu efo Jan Harenburg and Adalbert Podlech, Darmstadt: Toeche-Mittler
- 1982 Die Amtshilfe: ein Beitrag zu einer Lehre von der Gewaltenteilung in der Verwaltung, Berlin : Duncker & Humblot
- 1985 Grundrechte, Staatsrecht II, Cyd-awdur efo Bodo Pieroth, Heidelberg: C.F. Müller
- 2002 Polizei- und Ordnungsrecht, Cyd-awdur efo Bodo Pieroth and Michael Kniesel, Munich: Beck
- 2005 Vergewisserungen: über Politik, Recht, Schreiben und Glauben, Zurich: Diogenes
- 2015 Erkundungen zu Geschichte, Moral Recht und Glauben, Zurich: Diogenes