Beirniadaeth Gyfansawdd - Fframwaith Cyflawn Beirniadaeth Lenyddol
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | R.M. Jones |
Cyhoeddwr | Cyhoeddiadau Barddas |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1 Gorffennaf 2003 |
Pwnc | Astudiaethau Llenyddol |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9781900437592 |
Tudalennau | 296 |
Genre | Llenyddiaeth Gymraeg |
Llyfr ac astudiaeth lenyddol, Gymraeg gan R.M. Jones (Bobi Jones) yw Beirniadaeth Gyfansawdd: Fframwaith Cyflawn Beirniadaeth Lenyddol. Cyhoeddiadau Barddas a gyhoeddodd y gyfrol a hynny ar 01 Gorffennaf 2003. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Dadansoddiad o theori dairochrog parthed strwythur a chelfyddyd beirniadaeth lenyddol, sef y tafod, cymhelliad a mynegiant. Tafod a Mynegiant, a’r cyswllt rhyngddynt, sef Cymhelliad, sydd dan sylw. Ffrindiau (neu elynion) cyfarwydd yw’r rhain erbyn hyn, a chydnebydd yr awdur fod yma lawer o ailweithio, os nad ailgyflwyno syniadau. Ymgais at ganfod diweddglo taclus sydd yma, os nad adolygiad o waith blaenorol. Closure meddai’r seicdreiddiwr; amser cau’r siop, meddai R. M. Jones. Rhydd ei sylwadau ar feirniadaeth Farcsaidd, ynghyd â beirniadaeth ffeministaidd a threfedigaethol gyd-destun penodol i’r drafodaeth, a thrwy gyfeirio at fudiadau a beirniaid unigol diriaethir y drafodaeth.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013