Barbara Ehrenreich
Barbara Ehrenreich | |
---|---|
Ganwyd | Barbara Alexander 26 Awst 1941 Butte |
Bu farw | 1 Medi 2022 o strôc Alexandria |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor, hanesydd, nofelydd, awdur ysgrifau, ymgyrchydd heddwch, gwleidydd, imiwnolegydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, awdur, gweithredydd gwleidyddol, ffeminist |
Cyflogwr | |
Priod | John Ehrenreich |
Plant | Rosa Brooks, Ben Ehrenreich |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, dyneiddiwr, Gwobr Pedwar Rhyddid - Rhyddid rhag Eisiau, Gwobr Erasmus, Eugene V. Debs Award |
Gwefan | http://barbaraehrenreich.com/ |
Awdur a newyddiadurwraig o'r Unol Daleithiau oedd Barbara Ehrenreich (ganwyd Barbara Alexander, 26 Awst 1941 – 1 Medi 2022).
Ganed Barbara Alexander yn Butte, Montana, i deulu dosbarth gweithiol. Derbyniodd ei gradd baglor o Goleg Reed yn Portland, Oregon, ym 1963 a'i doethuriaeth mewn bioleg cell o Brifysgol Rockefeller yn Efrog Newydd ym 1968. Gweithiodd yn ddadansoddwr cyllideb, yn aelod o'r Ganolfan Cynghori Polisi Iechyd, ac yn isddarlithydd i Raglen y Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Daleithiol Efrog Newydd yn Old Westbury. Ymddiswyddodd o'r byd academaidd ym 1974 i fod yn awdur llawn amser.[1]
Thema sy'n rhedeg trwy ei hysgrifiadau yw mai chwedl ddifrifol yw'r freuddwyd Americanaidd. Mae pynciau nodweddiadol ei hysgrifau a'i llyfrau yn cynnwys y farchnad lafur, gofal iechyd, tlodi, a sefyllfa menywod.
Enillodd Wobr Erasmus yn 2018.[2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- The Hearts of Men: American Dreams and the Flight from Commitment (1983).
- Fear of Falling: The Inner Life of the Middle Class (1989).
- The Worst Years of Our Lives: Irreverent Notes from a Decade of Greed (1990).
- Blood Rites: Origins and History of the Passions of War (1997).
- Nickel and Dimed: On (Not) Getting By in America (2001).
- Bait and Switch: The (Futile) Pursuit of the American Dream (2005).
- Bright-sided (2009), a gyhoeddwyd yn y DU fel Smile or Die: How Positive Thinking Fooled America and the World.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Natalie Schachar, "Barbara Ehrenreich, Explorer of Prosperity’s Dark Side, Dies at 81", The New York Times (2 Medi 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Medi 2022.
- ↑ (Saesneg) "Former Laureates: Barbara Ehrenreich". Praemium Erasmianum Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-24. Cyrchwyd 23 Mai 2019.
- Egin pobl o'r Unol Daleithiau
- Genedigaethau 1941
- Marwolaethau 2022
- Colofnwyr o'r Unol Daleithiau
- Dyneiddwyr o'r Unol Daleithiau
- Enillwyr Gwobr Erasmus
- Ffeministiaid o'r Unol Daleithiau
- Hanesyddion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Hanesyddion yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Hanesyddion Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Llenorion gwleidyddol o'r Unol Daleithiau
- Newyddiadurwyr benywaidd yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Newyddiadurwyr benywaidd yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Newyddiadurwyr Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Pobl a aned ym Montana
- Pobl fu farw yn Virginia
- Pobl fu farw o strôc
- Sosialwyr o'r Unol Daleithiau
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Saesneg o'r Unol Daleithiau