Alec Mudimu
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 8 Ebrill 1995 | ||
Man geni | Harare, Simbabwe | ||
Safle | Canol Cae | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Sheriff Tiraspol | ||
Rhif | 8 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
C.P.D. Sheffield Wednesday | |||
2011–2012 | C.P.D. Stalybridge Celtic | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2012–2016 | C.P.D. Stalybridge Celtic | 42 | (5) |
2015 | → C.P.D. Radcliffe Borough F.C. (ar fenthyg) | ||
2016–2017 | C.P.D. Northwich Victoria | ||
2017 | C.P.D. Stockport Town | ||
2019– | Sheriff Tiraspol | 0 | (0) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2018– | Simbabwe | 18 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 09:48, 7 Ionawr 2019 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). |
Pêl-droediwr yw Alec Mudimu (ganwyd ar 8 Ebrill 1995 yn Harare, Simbabwe). Mae’n chwarae fel amddiffynnwr canol dros Simbabwe a chwareuodd yng nghanol y cae dros C.P.D. Derwyddon Cefn yn Uwch Gynghrair Cymru. Symudodd i Sheriff Tiraspol (Moldofa) ym mis Rhagfyr 2019.[1]
Symudodd o Harare i Swydd Hertford pan oedd 5 neu 6 oed. Chwaraeodd dros dîm ieuenctid C.P.D. Sheffield Wednesday, ac ymunodd â C.P.D. Stalybridge Celtic yn 2011. Aeth ar fenthyg i C.P.D. Radcliffe Borough yn 2015. Chwaraeodd dros C.P.D. Northwich Victoria a C.P.D. Stockport Town cyn ymuno â’r Derwyddon yng Ngorffennaf 2017. Cafodd dreialon gyda C.P.D. Fleetwood a C.P.D. Rochdale.
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Dewiswyd i chwarae dros Simbabwe yng nghystadleuaeth Cwpan COSAFA yn erbyn Angola, De Africa a Sambia ym Mawrth 2018.[2][3]. Enillodd Simbabwe’r cystadleuaeth, ac aeth Alec ymlaen i gynrychioli ei wlad yng ngemau rhagbrofol Cwpan Cenhedloedd Affrica yn ystod 2018/19.[4]. Cyrhaeddodd Simbabwe'r rowndiau terfynol ar 24 Mawrth 2019, wrth ennill eu grŵp.[5]
Etholwyd Alec ‘Personoliaeth y Flwyddyn’ gan Cyflawnwyr Ifanc Simbabwe yn 2018.[6]