[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Afon Humber

Oddi ar Wicipedia
Afon Humber
Mathaber Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLloegr Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd37,988 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.7006°N 0.6903°W, 53.5425°N 0.0925°E Edit this on Wikidata
AberMôr y Gogledd Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Ouse, Afon Trent, Afon Hull, Afon Ancholme, Afon Freshney Edit this on Wikidata
Dalgylch24,750 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd121 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethsafle Ramsar, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Moryd yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yw'r Humber, neu afon Humber fel y'i gelwir weithiau. Mae'n foryd hir a ffurfir gan gydlifyad Afon Ouse ac Afon Trent. Rhed ar gwrs dwyreiniol i Fôr y Gogledd, gan lifo heibio i borthladdoedd Hull, Immingham a Grimsby. Ei hyd yw 40 milltir.

Mae'n cael ei chroesi gan Pont Humber, a oedd y bont un rhychwant hiraf yn y byd (1410m / 4626 troedfedd) pan gafodd ei hagor yn 1981.

Yn yr 8g dynodai afon Humber ffin ogleddol teyrnas Offa, brenin Mersia, gyda theyrnas Northumbria yn gorwedd i'r gogledd.

Humberside

[golygu | golygu cod]
Prif: Humberside

Ar 1 Ebrill 1974 crëwyd Humberside fel sir an-fetropolitan dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o rannau o'r hen Riding Dwyreiniol Swydd Efrog, Riding Gorllewinol Swydd Efrog a Swydd Lincoln ar bob ochr Afon Humber. Yn wahanol i "Merseyside" (Glannau Merswy), nid oedd yr enw "Humberside" erioed wedi cael ei ddefnyddio llawer iawn o'r blaen yn ffurfiol nac yn anffurfiol. Roedd y sir newydd yn amhoblogaidd gyda chryn nifer o'i thrigolion, ac fe'i diddymwyd ar 31 Mawrth 1996, gan gael ei disodli gan nifer o awdurdodau unedol. Serch hynny, er nad oes gan yr enw statws cyfreithiol mwyach, weithiau mae'n dal i gael ei ddefnyddio i gyfeirio at yr ardal.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.