Afon Belize
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Belîs |
Uwch y môr | 9 metr |
Cyfesurynnau | 17.17841°N 89.08016°W, 17.53456°N 88.23664°W |
Tarddiad | Maya Mountains |
Aber | Gulf of Honduras |
Llednentydd | Afon Macal, Afon Mopan |
Dalgylch | 5,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 290 cilometr |
Afon 180 milltir o hyd yn Belîs, Canolbarth America, yw Afon Belîs. Mae'n casglu dŵr mwy na chwarter y wlad wrth ddilyn ymyl orllewinol Mynyddoedd Maya i aberu yn y Caribî ger Dinas Belîs. Enw arall arni yn lleol yw "Yr Hen Afon". Gellir ei mordwyo hyd at agos i'r ffin â Gwatemala. Hyd ddiwedd yr 20fed ganrif hi oedd prif lwybr masnach a chyfathrebu rhwng y tiroedd mewnol a'r arfordir.
Mae hi'n cychwyn lle mae Afon Mopan ac Afon Macal yn cyfuno ger San Ignacio, Belîs. Am y rhan fwyaf o'i chwrs mae'n llifo trwy goedwigoedd trofannol ei dyffryn. Mae'n ffynhonnell bwysig ar gyfer dŵr yfed i drigolion yr ardal ond mae llygredd gan gemegon amaethyddol ac effaith dadgoedwigo, yn bennaf mewn canlyniad i amaethyddiaeth sleisio a llosgi, yn broblem fawr heddiw.