Afan Buallt
- Erthygl am sant o Gymro yw hon. Gweler hefyd Afan (gwahaniaethu).
Afan Buallt | |
---|---|
Ganwyd | 6 g Gwynedd |
Bu farw | Llanafan Fawr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad |
Dydd gŵyl | 17 Tachwedd |
Mam | Gwenhaf |
Sant o'r 6g oedd Afan neu Afan Buallt neu'r Esgob Afan (fl. 500 - 542). Fe'i cysylltir â thri plwyf yn arbennig, sef Llanafan (Ceredigion), Llanafan Fawr a Llanafan Fechan (Powys). Mae'n debygol ei fod yn frodor o Geredigion. Ei ŵyl oedd y 17 Tachwedd.[1]
Yn ôl yr achau traddodiadol, roedd Afan yn fab i Gedig ap Ceredig, brenin teyrnas Ceredigion, a Tegwedd ferch Tegid Foel ac yn gefnder i Ddewi Sant. Roedd yn frawd i Ddoged ac yn un o ddisgynyddion Cunedda Wledig, sefydlydd teyrnas Gwynedd. Roedd yn berthynas i Sant Teilo hefyd, trwy ei fam.
Credir iddo fod yn drydydd abad neu 'esgob' Llanbadarn Fawr. Yn ôl traddodiad, lladdwyd Afan yn Llanafan Fawr yn y flwyddyn 542 gan griw o Wyddelod ar gyrch ym Mrycheiniog. Gelwir y ffrwd lle y'i lladdwyd yn Nant Esgob. Ceir Derwen Afan yn y plwyf hefyd.[2][3]
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Erthygl Afan Buallt yng Ngeiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I ar Wicidestun
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Book of Common Prayer for Use in the Church in Wales: The New Calendar and the Collects Archifwyd 2014-12-15 yn y Peiriant Wayback Yr Eglwys yng Nghymru. 2003. Adalwyd Tachwedd 2014.
- ↑ Baring-Gould, Sabine (1907). The Lives of the British Saints: The Saints of Wales and Cornwall and such Irish Saints as have Dedications in Britain. London: Charles J. Clark, for the Honourable Society of Cymmrodorion. tt. 114–115.
- ↑ Jones, Terry. "Afan". Patron Saints Index. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-01. Cyrchwyd 2007-12-30.
- T. D. Breverton, A Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndwr, 2000).