Abaty Dinas Basing
Math | adfeilion mynachlog, abaty |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Treffynnon |
Sir | Treffynnon |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 18.1 metr |
Cyfesurynnau | 53.288°N 3.20735°W, 53.288039°N 3.207414°W |
Rheolir gan | Cadw |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Sistersaidd |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | FL001 |
Abaty canoloesol yn Sir y Fflint yw Abaty Dinas Basing (Saesneg: Basingwerk Abbey). Saif ger pentref Maes-glas, i'r gogledd o dref Treffynnon, ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, ac mae yng ngofal Cadw. Yn yr Oesoedd Canol gorweddai yng nghwmwd Cwnsyllt, cantref Tegeingl.
Sefydlwyd yr abaty ym 1132 gan Iarll Caer, gyda mynachod o Savigny. Fe'i sefydlwyd ar safle gwahanol, ond roedd wedi ei ail-sefydlu ar y safle presennol cyn 1157. Ym 1147 daeth yn rhan o Urdd y Sistersiaid, o dan Abaty Buildwas. Yn y drydedd ganrif ar ddeg roedd Llywelyn Fawr yn noddwr i'r abaty, a rhoddwyd Ffynnon Gwenffrewi i'r abaty gan ei fab, Dafydd ap Llywelyn. Caewyd y fynachlog ym 1536.
Roedd gan nifer o Feirdd yr Uchelwyr gysylltiad ag Abaty Dinas Basing. Cysylltir yr abaty â Llyfr Du Basing, llawysgrif a ysgrifennwyd gan y bardd Gutun Owain (bl. 1460-1500). Roedd yr abaty yn arbennig o lewyrchus dan yr abad olaf ond un, Thomas Pennant, oedd yn nodedig fel noddwr beirdd.
Cadw sy'n gyfrifol amdano; yn 2015 peintiwyd sloganau ar furiau'r abaty gan fandaliaid a chafwyd cryn feirniadaeth o Cadw am fethu a gwarchod yr heneb.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Papur The Leader; Archifwyd 2015-04-02 yn y Peiriant Wayback adalwyd 30 Mawrth 2015
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Llun dyfrlliw o Abaty Dinas Basing gan Moses Griffith, o "Casglu'r Tlysau" Archifwyd 2007-10-10 yn y Peiriant Wayback