Aneurin Jones
Aneurin Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1930 Cymru |
Bu farw | 25 Medi 2017 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arlunydd |
Gwefan | http://www.aneurinjones.co.uk/ |
Artist o Gymru oedd Aneurin M. Jones (1930 – 25 Medi 2017) a gafodd ei eni yn ardal Y Mynydd Du, Sir Gaerfyrddin.[1] Roedd yn hoff iawn o dynnu lluniau o olygfeydd cefn gwlad, ac yn benodol, mannau lle mae cymeriadau cefn gwlad yn ymgynnull megis arwerthiannau, sioeau a threialon cŵn defaid. Roedd yn arlunio llawer o geffylau hefyd.
Ei fywyd a'i waith
[golygu | golygu cod]Ganwyd Aneurin yn fab i ffermwr yng nghymuned wledig Cwm Wysg, ar y ffin rhwng siroedd Brycheiniog a Chaerfyrddin. Parhaodd a'i addysg yng Ngholeg Celf Abertawe lle'r astudiodd Celf Gain rhwng 1950 ac 1955[1]. Ar ôl iddo raddio, treuliodd ddwy flynedd yn gweithio i Celtic Studios, yn gweithio ar wydr lliw. Rhwng 1958 a'i ymddeoliad yn 1986, bu'n Bennaeth yr Adran Gelf yn Ysgol y Preseli, Crymych, Sir Benfro.
Roedd ei waith wedi'i arddangos yn rheolaidd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a phan oedd yn fyfyriwr yn 1954, derbyniodd y wobr aur yn rownd derfynol y gystadleuaeth agored[2]. Yn 1974, cafodd ei wahodd i arddangos ei waith yn Arddangosfa Hawkmoor a oedd yn dangos bywyd ac hanesion Twm Sion Cati. Bedair blynedd yn ddiweddarach, yn 1978, derbyniodd Wobr Cymdeithas y Rotari am ei wasanaethau i fyd Celf. Yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1981 derbyniodd y brif wobr ar gyfer artistiaid a anwyd neu sy'n byw yng Nghymru. Yn 1983, cafodd ei luniau eu cynnwys mewn llyfr yn seiliedig ar waith 15 o artistiaid amlycaf Cymru.[2]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd Aneurin yn briod gyda Julie ac roedd ganddynt ddau o blant, Meinir a Meirion, sydd hefyd yn artist. Roedd yn byw yn ardal Aberteifi, Ceredigion hyd ei farwolaeth yn 2017.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Gwefan Attic Gallery Archifwyd 2016-06-16 yn y Peiriant Wayback Cyrchwyd ar 28 Chwefror 2014
- ↑ 2.0 2.1 Gwefan s4c Bywgraffiad o Aneurin Jones. cyrchwyd ar 28 Chwefror 2014
- ↑ Marw artist cefn gwlad a’r cob, Aneurin Jones , Golwg360, 25 Medi 2017.