Anaïs Nin
Anaïs Nin | |
---|---|
Ganwyd | Ángela Anaïs Juana Antolina Rosa Edelmira Nin Culmell 21 Chwefror 1903 Neuilly-sur-Seine |
Bu farw | 14 Ionawr 1977 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | llenor, hunangofiannydd, dyddiadurwr, sgriptiwr, nofelydd, dawnsiwr |
Adnabyddus am | Delta of Venus |
Tad | Joaquín Nin |
Mam | Rosa Culmell Vaurigaud |
Priod | Hugh Parker Guiler, Rupert Pole |
Gwobr/au | doctor honoris causa, Cwpan Arian Merch y Flwyddyn y Los Angeles Times |
llofnod | |
Awdures gweithiau erotig o Ffrainc oedd Anaïs Nin (21 Chwefror 1903 - 14 Ionawr 1977) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel hunangofiannydd, dyddiadurwr, awdur storiau byrion a sgriptiwr.
Ei henw llaw oedd Angela Anaïs Juana Antolina Rosa Edelmira Nin y Culmell ac fe'i ganed yn Neuilly-sur-Seine, maestref ar ochr gorllewinol Paris; bu farw yn Los Angeles o ganser ac fe'i claddwyd yn y môr. [1][2][3][4][5][6]
Bu'n briod i Hugh Parker Guiler ac yna i Rupert Pole.
Yn un-ar-ddeg oed, dechreuodd ysgrifennu dyddiaduron cynhwysfawr, a pharhaodd i wneud hyn drwy gydol ei bywyd. Mae ei dyddiaduron, y cyhoeddwyd llawer ohonynt yn ystod ei hoes, yn manylu ar ei meddyliau a'i theimladau preifat. Maent hefyd yn disgrifio ei phriodas â Hugh Parker Guiler ac yna priodi Rupert Pole, yn ogystal â'i affêrs niferus, gan gynnwys y rhai gyda'r seicoanalydd Otto Rank a'r awdur Henry Miller. Dylanwadodd y ddau yma ar Nin yn fawr iawn. [7]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]O Ciwba y daeth ei rhieni i Ffrainc; roedd Nin yn ferch i'r cyfansoddwr Joaquín Nin a Rosa Culmell, canwr clasurol o Gatalwnia.[8] Treuliodd Nin ei blynyddoedd cynnar yn Barcelona (Catalwnia) a Ciwba, tua 16 mlynedd ym Mharis (1924–1940), a hanner arall ei bywyd yn Unol Daleithiau America, lle daeth yn awdur cydnabyddiedig.[9] Roedd tad-cu ei thad wedi ffoi o Ffrainc yn ystod y Chwyldro, gan fynd yn gyntaf i Saint-Domingue, yna New Orleans, ac yn olaf i Ciwba lle helpodd i adeiladu rheilffordd gyntaf y wlad honno.[10]
Gwahanodd ei rhieni pan oedd hi'n ddwy oed; yna symudodd ei mam Anaïs a'i dau frawd, Thorvald Nin a Joaquín Nin-Culmell, i Barcelona, ac yna i Ddinas Efrog Newydd, lle mynychodd yr ysgol uwchradd. Gadawodd Nin yr ysgol uwchradd ym 1919 pan oedd yn un-deg-chwech oed, ac ar yr un pryd, gadawodd yr Eglwys Gatholig am byth. Yn ôl ei dyddiaduron (Cyfrol Un, 1931–1934), dechreuodd weithio fel model i artist ychydig yn ddiweddarach.[11][12]
Ar 3 Mawrth 1923, yn Havana, Ciwba, priododd Nin ei gŵr cyntaf, Hugh Parker Guiler (1898–1985), bancwr ac artist, a adwaenid yn ddiweddarach fel "Ian Hugo" pan ddaeth yn wneuthurwr ffilmiau arbrofol ar ddiwedd y 1940au. Symudodd y cwpl i Baris y flwyddyn ganlynol, lle dilynodd Guiler yrfa mewn bancio a dechreuodd Nin ddilyn ei diddordeb mewn ysgrifennu ac fel dawnsiwr fflamenco. Roedd ei gwaith cyhoeddedig cyntaf yn werthusiad beirniadol o D. H. Lawrence o'r enw D. H. Lawrence: Astudiaeth Amhroffesiynol, a sgwennodd mewn un-deg-chwe diwrnod diwrnod.[8]
Y llenor
[golygu | golygu cod]Cyhoeddwyd llawer o'i gwaith, gan gynnwys y casgliadau erotig Delta o Venus a Little Birds, ar ôl iddi farw, pan ailgododd diddordeb yn ei gwaith.
Mae Nin yn cael ei chanmol gan lawer o feirniaid fel un o ysgrifenwyr gorau erotica benywaidd. Roedd yn un o'r merched cyntaf y gwyddys i wneud hynny, ac yn sicr y fenyw flaenllaw gyntaf yn y Gorllewin modern y gwyddys ei bod yn ysgrifennu erotica. Cyn hynny, roedd erotica wedi'i ysgrifennu gan fenywod yn brin, gydag ychydig o eithriadau nodedig, fel gwaith Kate Chopin. Yn aml, soniai Nin am awduron fel Djuna Barnes a D. H. Lawrence fel ysbrydoliaeth, ac mae'n dweud yng Nghyfrol Un o'i dyddiaduron iddi gael ei hysbrydoli gan Marcel Proust, André Gide, Jean Cocteau, Paul Valéry, ac Arthur Rimbaud.[13][14]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Dyddiaduron a llythyrau
[golygu | golygu cod]- The Early Diary of Anaïs Nin (1914–1931), mewn pedair cyfrol
- The Diary of Anaïs Nin, mewn saith cyfrol
- Henry and June: From A Journal of Love. The Unexpurgated Diary of Anaïs Nin (1931–1932) (1986), golygwyd gan Rupert Pole wedi ei marwolaeth
- A Literate Passion: Llythyrau i Anaïs Nin & Henry Miller (1987)
- Incest: From a Journal of Love (1992)
- Fire: From A Journal of Love (1995)
- Nearer the Moon: From A Journal of Love (1996)
- Mirages: The Unexpurgated Diary of Anaïs Nin, 1939-1947 (2013)
- Trapeze: The Unexpurgated Diary of Anaïs Nin, 1947–1955 (2017)
Ffuglen
[golygu | golygu cod]Nofelau
[golygu | golygu cod]- House of Incest (1936)
- Winter of Artifice (1939)
- Cities of the Interior (1959), mewn pump cyfrol:
- Ladders to Fire
- Children of the Albatross
- The Four-Chambered Heart
- A Spy in the House of Love
- Seduction of the Minotaur, a gyhoeddwyd yn wreiddiol fel Solar Barque (1958).
- Collages (1964)
Storiau byrion
[golygu | golygu cod]- Waste of Timelessness: And Other Early Stories
- Under a Glass Bell (1944)
- Delta of Venus (1977)
- Little Birds (1979)
- Auletris (2016)
Ffeithiol
[golygu | golygu cod]- D. H. Lawrence: An Unprofessional Study (1932)
- The Novel of the Future (1968)
- In Favor of the Sensitive Man (1976)
- The Restless Spirit: Journal of a Gemini gan Barbara Kraft (1976) (rhagarweiniad gan Nin)
- Aphrodisiac: Erotic Drawings gan John Boyce ar gyfer gwaith gan Anaïs Nin
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Academi Celfyddydau a Llythyrau America am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: doctor honoris causa, Cwpan Arian Merch y Flwyddyn y Los Angeles Times .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 11 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Anais Nin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anaïs Nin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anais Nin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anaïs Nin". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anaïs Nin". "Anaïs Nin". "Anaïs Nin". "Anaïs Nin". "Anaïs Nin". "Anaïs Nin". "Anais Nin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Anais Nin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anaïs Nin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anais Nin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anaïs Nin". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anaïs Nin". "Anaïs Nin". "Anaïs Nin". "Anaïs Nin". "Anais Nin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014 tystysgrif geni, Wikidata Q83900
- ↑ Enw genedigol: tystysgrif geni, Wikidata Q83900
- ↑ Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 17 Ebrill 2015
- ↑ 8.0 8.1 Liukkonen, Petri. "Anaïs Nin profile". kirjasto.sci.fi (yn Ffinneg). Finland: Kuusankoski Public Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Ionawr 2012. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ Fenner, Andrew. "The Unique Anaïs Nin". Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2016.
- ↑ Nin 1966, t. 125.
- ↑ Nin & DuBow 1994, t. xxi.
- ↑ Nin 1966, t. 183.
- ↑ Nin 1966, t. 60.
- ↑ Nin 1966, t. 29, 40.