[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

A Storm of Swords

Oddi ar Wicipedia
A Storm of Swords
Clawr caled, fersiwn UDA
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurGeorge R. R. Martin
CyhoeddwrAST Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
IaithSaesneg
Dyddiad cyhoeddi8 Awst 2000 Edit this on Wikidata
ISBNISBN 0-553-10663-5 (clawr caled UDA), ISBN 0-00-224586-8 (clawr caled DU), ISBN 0-553-57342-X (clawr papur UDA)
GenreFfantasi
CyfresA Song of Ice and Fire
Rhagflaenwyd ganA Clash of Kings Edit this on Wikidata
Olynwyd ganA Feast for Crows Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.georgerrmartin.com/grrm_book/a-storm-of-swords-a-song-of-ice-and-fire-book-three/ Edit this on Wikidata

Nofel ffantasi gan George R. R. Martin yw A Storm of Swords a gyhoeddwyd gyntaf ar 8 Awst 2000 yng ngwledydd Prydain ac ynja yn yr Unol daleithiau yn Nhachwedd. Hon yw'r drydedd nofel yn y gyfres o saith: A Song of Ice and Fire.[1]

Rhagflaenwyd y nofel hon gan novella o'r enw Path of the Dragon, sef casgliad o'r penawdau am y ferch benfelen Daenerys Targaryen o'r brif nofel i gyfrol fechan unigol.

Pan gafodd A Storm of Swords ei chyhoeddi, hon oedd y nofel hiraf o'r dair. Roedd mor hir, penderfynwyd ei hollti yng ngwledydd Prydain, Israel, Gwlad Pwyl, Awstralia a'r fersiynnau Groeg a Ffrangeg a chafodd ei chyhoeddi mewn dwy gyfrol: Steel and Snow a Blood and Gold ym Mehefin ac Awst 2001. Yn fersiwn Ffrainc, fe'i holltwyd yn bedair rhan.

Enillodd A Storm of Swords Wobr Locus, 2001,[2] Gwobr Geffen yn 2002 am y Nofel Orau ac fe'i henwebwyd am Wobr Nebula yn 2001.[2] Hon oedd y gyntaf o'r gyfres i gael ei henwebu am Wobr Hugo, un o wobrau pwysicaf y byd gwyddonias.[2][3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Miller, Faren (November 2000). "Locu Online Reviews: A Storm of Swords (Awst 2000)". Locus. LocusMag.com. Cyrchwyd 7 Mawrth 2010.
  2. 2.0 2.1 2.2 "2001 Award Winners & Nominees". Worlds Without End. Cyrchwyd 2009-07-25.
  3. "2001 Hugo Awards". The Hugo Awards. 2001-09-03. Cyrchwyd 2011-10-13.


Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.