Cyllid myfyrwyr
Gwedd
Ffyrdd o ariannu addysg myfyrwyr, yn enwedig myfyrwyr addysg uwch, yw cyllid myfyrwyr neu gymorth ariannol i fyfyrwyr. Gall gynnwys fenthyciadau, grantiau, bwrsarïau, nawdd, ac ysgoloriaethau. Mae rhai myfyrwyr hefyd yn cymryd swyddi rhan-amser neu swyddi haf i ariannu eu haddysg ac eraill yn dibynnu ar eu rhieni i'w dalu.
Mae myfyrwyr yn defnyddio'r cyllid i ariannu eu ffïoedd dysgu, llety, gwerslyfrau, hanfodion megis bwyd a dillad, a bywyd cymdeithasol.