Cyhyr
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o strwythurau anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | general anatomical term, nonparenchymatous organ, muscle structure, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | System gyhyrol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Meinwe gyfangol sy'n bodoli mewn cyrff fertebratau yw cyhyr. Mae'n deillio o'r haenen fesodermig o gelloedd germ embryonaidd. Mae celloedd cyhyrau yn cynnwys ffilamentau cyfangol sy'n symud heibio i'w gilydd gan newid maint y cell. Mae tri gwahanol fath o gyhyr, sef cyhyrau sgerbydol, llyfn a'r rhai y galon. Eu swyddogaeth yw i greu nerth ac achosi mudiant. Gall cyhyrau achosi ymsymudiad yr organeb ei hun neu symudiad yr organau mewnol. Mae cyfangu cyhyrau y galon a'r rhai llyfn yn digwydd heb feddwl ymwybodol ac mae'n angenrheidiol ar gyfer goroesiad. Enghreifftiau o hyn yw cyfangiad y galon a'r gwringhelliad (peristalsis) sy'n gwthio bwyd trwy'r system dreulio. Defnyddir cyfangiad rheoledig o'r cyhyrau sgerbydol i symud y corff, a gall hyn gael ei reoli'n fanwl. Mae enghreifftiau yn cynnwys symudiad llygad, neu symudiadau crynswth megis cyhyrau pedryben y morddwyd. Mae dau fath llydan o ffibr cyhyr rheoledig: plwc araf a phlwc cyflym. Mae cyhyrau plwc araf yn gallu cyfangu am gyfnod hir o amser gyda ychydig iawn o nerth tra bod cyhyrau plwc cyflym yn gallu cyfangu yn gyflym ac yn nerthol ond maent yn lludded yn sydyn.
Mathau o gyhyrau
[golygu | golygu cod]Mae tri math o gyhyrau:
Cyhyr llyfn
[golygu | golygu cod]Mae cyhyr llyfn hefyd yn gyhyr anrheoledig anrhesog, ac a geir o fewn muriau organau a strwythurau megis y llwnc, y stumog, coluddion, bronciolynnau, croth, wrethra, pledren, gwythiennau, ac yn y croen hyd yn oed (lle mae'n rheoli codiad blew). Yn wahanol i cyhyr sgerbydol, nid yw cyhyr llyfn dan reolaeth ymwybodol.
Cyhyr y galon
[golygu | golygu cod]Mae cyhyr y galon (hefyd myocardiwm) yn gyhyr anrheoledig rhesog ond mae'n debycach o ran strwythur i gyhyr sgerbydol, a gaiff ei ganfod yn y galon yn unig.
Cyhyr sgerbydol
[golygu | golygu cod]Mae cyhyr sgerbydol yn gyhyr rheoledig rhesog wedi angori i'r asgwrn gan ewynnau, ac a'i ddefnyddir i effeithio symudiad sgerbydol megis ymsymudiad ac i gynnal ymddaliad. Er fod rheolaeth yr ymddaliad yn cael ei gynnal yn gyffredinol yn isymwybodol, mae'r cyhyrau sy'n gyfrifol am wneud hyn yn ymateb yn yr un modd a cyhyrau sydd ddim yn ymwneud â ymddaliad. Cyfansoddir dyn mewn oed o 40–50% o gyhyrau sgerbydol, a dynes mewn oed o 30–40% ohonynt (fel canran o fás y corff).
Rhannir cyhyrau sgerbydol yn bellach yn dri is-fath:
- Math I, cyhyr araf sy'n ocsideiddio, plwc araf, neu gyhyr ‘coch’ sy'n dwys gyda chapilarïau ac yn gyfoethog mewn mitocondria a myoglobin, gan roi iddo'r lliw coch nodweddiadol. Gall gludo mwy o ocsigen a chynnal gweithgaredd aerobig.
- Math II, cyhyr plwc cyflym, mae tri prif fath, mewn trefn cynyddol cyflymder cyfangu:[1]
- Math IIa, sydd, yn debyd i gyhur araf, yn aerobig, sy'n gyfoethog mewn mitocondria a chapilarïau ac yn edrych yn goch.
- Math IIx (adnabyddir hefyd fel math IId, neu yn anaml iawn IIB), sydd llai dwys mewn mitocondria a myoglobin. hwn yw'r cyhyr cyflymaf mewn dyn. Gall gyfangu yn gyflymach a gyda'r cyfanswm mwyaf o rym na cyhyr sy'n ocsideiddio, ond gall gynnal ebychiadau byr o weithgaredd anaerobig cyn y daw cyfangiad y cyhyr yn boenus (priodolir hyn yn anghywir yn aml i grynodiad o asid lactig).[2]
- Math IIb, sy'n anaerobig, glycolysisaidd, cyhyr "gwyn" sydd hyd yn oed llai dwys mewn mitocondria a myoglobin. Mewn anifeiliaid bychain megis cnofilod, hwn yw'r prif fath o gyhyr cyflym, sy'n egluro lliw golau eu cnawd.
Anatomeg
[golygu | golygu cod]Mae anatomeg cyhyrau yn cynnwys anatomeg crynswth, yn cynnwys holl gyhyrau organeb, ac, ar y llaw arall, microanatomeg, sy'n cynnwys strwythrau cyhyrau unigol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "MHC composition and enzyme-histochemical and physiological properties of a novel fast-twitch motor unit type". The American Journal of Physiology 261 (1 pt 1): C93–101. PMID 1858863. http://ajpcell.physiology.org/cgi/reprint/261/1/C93. Adalwyd 2008-08-17.
- ↑ V Smerdu (Rhagfyr 1994). Type IIx myosin heavy chain transcripts are expressed in type IIb fibers of human skeletal muscle. URL Nodyn: Mae angen tanysgrifiad i ddarllen y testun cyfan; mae crynodeb ar gael am ddim