Cristiolus
Gwedd
Cristiolus | |
---|---|
Ganwyd | 6 g Ynys Môn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Dydd gŵyl | 3 Rhagfyr |
Tad | Hywel fab Emyr Llydaw |
Sant o Gymru oedd Cristiolus (fl. 6g). Dethlir ei ddydd gŵyl ar 3 Rhagfyr.
Yn ôl traddodiad roedd Cristiolus yn un o feibion Hywel fab Emyr Llydaw ac felly'n frawd i Sulien, Rhystud a Derfel Gadarn, ac efallai Dwywe (Dwywau) hefyd. Mae rhai achau yn ei wneud yn fab i Hywel Fychan fab Hywel fab Emyr Llydaw ac yn gefnder i Sant Cadfan.
Cysegrir eglwys Llangristiolus, Môn, ynghyd ag Eglwyswrw a Penrhydd (Sir Benfro), i Gristiolus.