Cranc
Gwedd
Cranc Amrediad amseryddol: Jwrasig–Diweddar | |
---|---|
Cranc nofiol llwyd Liocarcinus vernalis | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Adrannau ac isadrannau[1] | |
Cramenogion dectroed yn yr is-urdd Brachyura yw crancod, crangod neu crainc. Ceir crancod y môr, crancod dŵr croyw, a chrancod tir. Fel rheol mae ganddynt allsgerbwd trwchus a phâr o grafangau neu fodiau.
Mae ambell anifail yn dwyn yr enw cranc, er nad ydynt yn wir grancod, gan gynnwys marchgranc (teulu Lithodidae), cranc meddal, crancod meudwyol, cranc y cregyn neu granc ymfudol (uwchdeulu Paguroidea), cranc porslen (teulu Porcellanidae), a'r pryfed cranclau (Pthirus pubis).
Dosbarthiad
[golygu | golygu cod]Cydnabyddir 6,793 o rywogaethau, o fewn 93 o deuluoedd, yn yr is-urdd Brachyura.[2] Maent yn cyfri am ryw hanner o'r holl Decapoda.[3]
Rhestr dethol o rywogaethau
[golygu | golygu cod]- Crancod nofiol (teulu Portunidae)
- Cranc glas, cranc gwyrdd, cranc cyffredin, cranc y traeth neu'r glasyn (Carcinus maenas)
- Cranc llygatgoch (Necora puber)
- Teulu Cancridae
- Cranc coch neu'r cochyn (Cancer pagurus)
- Teulu Pilumnidae
- Cranc blewog (Pilumnus hirtellus)
- Teulu Corystidae
- Cranc melyn neu granc mygydog (Corystes cassivelaunus)
- Teulu Pinnotheridae
- Pysgranc neu granc bach (Pinnotheres pisum)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Cimwch
- Cranc wisgïwr, cranc sydd wedi bwrw ei allsgerbwd ac sy'n feddal, ac felly'n addas ar gyfer abwyd neu goginiaeth
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Sammy De Grave; N. Dean Pentcheff; Shane T. Ahyong (2009). "A classification of living and fossil genera of decapod crustaceans" (PDF). Raffles Bulletin of Zoology Suppl. 21: 1–109. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2011-06-06. https://web.archive.org/web/20110606064728/http://rmbr.nus.edu.sg/rbz/biblio/s21/s21rbz1-109.pdf.
- ↑ Peter K. L. Ng, Danièle Guinot & Peter J. F. Davie (2008). "Systema Brachyurorum: Part I. An annotated checklist of extant Brachyuran crabs of the world" (PDF). Raffles Bulletin of Zoology 17: 1–286. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2011-06-06. https://web.archive.org/web/20110606061453/http://rmbr.nus.edu.sg/rbz/biblio/s17/s17rbz.pdf.
- ↑ Joel W. Martin; George E. Davis (2001). An Updated Classification of the Recent Crustacea (PDF). Natural History Museum of Los Angeles County. t. 132. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-05-12. Cyrchwyd 2017-10-20.