Clarence Nash
Clarence Nash | |
---|---|
Ganwyd | 7 Rhagfyr 1904 Watonga, Oklahoma |
Bu farw | 20 Chwefror 1985 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | UDA |
Galwedigaeth | digrifwr, canwr, actor llais, actor llais, actor |
Gwobr/au | 'Disney Legends', Gwobr Inkpot |
Actor llais Americanaidd oedd Clarence Charles "Ducky" Nash (7 Rhagfyr 1904 – 20 Chwefror 1985). Roedd yn fwyaf adnabyddus am leisio cymeriad cartŵn Cwmni Disney Donald Duck. Bu'n lleisio Donald Duck am dros 50 mlynedd. Bu hefyd yn lleisio cariad Donald Daisy Duck, a neiaint Donald Huey, Dewey a Louie.
Fe'i aned yng nghymuned gwledig Watonga, Oklahoma. Mae stryd yn ei dref enedigol wedi ei enwi er anrhydedd iddo. Ym 1993, fe'i urddwyd i restr Arwyr Disney (Disney Legends) am ei gyfraniad i ffilmiau Walt Disney.[1]
Gyrfa Cynnar
[golygu | golygu cod]Daeth Nash i amlygrwydd cynnar fel dynwaredwr ar sianel radio KHJ yn Los Angelese yn niwedd y 1920au. Roedd yn ymddangos mewn sioe o'r enw The Merrymakers. Wedyn cafodd ei gyflogi gan gwmni gwerthu llaeth. Roedd yn tramwyo'r strydoedd gyda gwedd o geffylau bychan gan dynwared trydar adar ac yn rhoi rhoddion i blant er mwyn codi cyhoeddusrwydd i'r cwmni.
Ym 1932, aeth Nash heibio stiwdio Disney gyda'i wedd o geffylau gan adael deunydd cyhoeddusrwydd gyda'r derbynnydd. Roedd Walt Dinsey wedi ei glywed ychydig dyddiau ynghynt ar y rhaglen The Merrymakers, ac roedd ei dynwarediadau wedi gwneud argraff arno. Wedi deallt y cysylltiad rhwng y dyn ar y radio a'r dyn hybu llaeth, gofynodd Disney i Nash gwneud clyweliad.[2]
Donald Duck
[golygu | golygu cod]Yn y clyweliad aeth Nash trwy nifer o'i leisiau, a digwyddodd Walt Disney mynd heibio pan oedd Nash yn dynwared teulu o hwyaid. Roedd Disney o'r farn y byddai dynwarediad Nash yn berffaith ar gyfer rôl llais hwyaden anthropomorffig roedd wrthi'n creu ar gyfer y ffilm The Wise Little Hen. Yr hwyaden oedd Donald Duck, ac aeth Nash ymlaen i'w leisio am bron i 50 mlynedd, mewn dros 120 o ffilmiau. Y ffilm olaf i gynnwys llais enwog Nash oedd Mickey's Christmas Carol ym 1983, er ei fod yn parhau i roi llais i Donald ar gyfer hysbysebion, deunydd hyrwyddo a deunydd amrywiol eraill hyd ei farwolaeth.[3]
Aeth Donald Duck ymlaen i fod yn un o'r cymeriadau cartŵn mwyaf enwog yn y byd. Roedd rhan fawr o'i lwyddiant oherwydd llais Nash. Mae'r llais yn nodedig am ei ansawdd hwylus a'r ffaith ei fod yn aml yn anodd iawn i unrhyw un ei ddeall, yn enwedig pan fu Donald yn colli ei limpyn (a ddigwyddodd yn eithaf aml).
Cymeriadau eraill
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â llais Donald, bu Nash hefyd yn lleisio Daisy Duck (yn ei ymddangosiadau cynharaf, pan nad oedd hi'n llawer mwy na fersiwn benywaidd o Donald), yn ogystal â'i neiaint Donald Huey, Dewey a Louie. Rhoddodd y llais i'r cymeriad PJ yn y cartŵn Bellboy Donald ac i'r marchlyffant yn Bambi. Bu'n lleisio Figaro'r gath fach mewn llond llaw o ffilmiau byr a gwnaeth rhai o'r synau cŵn yn One Hundred and One Dalmatians. Lleisiodd Jiminy Cricket hefyd am gyfnod byr ar ôl marwolaeth Cliff Edwards, y llais gwreiddiol ym 1971.[1] Bu Nash yn cyflenwi mewian a sgrechfeydd ar gyfer Tom yn Tom a Jerry. Daeth ei berfformiad olaf yn Tom a Jerry yn Mouse in Manhattan (1945), gan actio lleisiau'r cathod stryd cefn treisgar.
Ymddangosiadau personol
[golygu | golygu cod]Ymddangosodd Nash fel ei hun yn ffilm The Reluctant Dragon, 1941, sy'n dangos sut mae ffilmiau Disney yn cael eu cynhyrchu, ac roedd yn gystadleuydd ar bennod 1954 o What's My Line.[4] a phennod 1964 o To Tell the Truth. Ymddangosodd Nash hefyd fel ei hun ym mhennod Disneyland ym 1956 dan y teitl "A Day in the Life of Donald Duck", lle mae'n rhyngweithio â'r Donald animeiddiedig sy'n beio Nash am ei broblemau lleferydd: oherwydd tymer byr Donald mae'r sgwrs rhwng y ddau yn troi'n ddadl ffyrnig. Bu hefyd yn westai ar bennod 1976 o Sioe Mike Douglas. Roedd 50fed Pen-blwydd Donald Duck yn 1984 yn cynnwys sawl clip o ffilmiau Disney a pherfformiadau Disneyland ac ymddangosiadau personol gan Nash.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw Nash o lewcemia mewn ysbyty yn Burbank, California yn 80 mlwydd oed.[5] Claddwyd ei weddillion ym mynwent San Fernando Mission, Los Angeles, California wrth ochr Margaret ei wraig. Mae cerfiad ar eu carreg bedd o Daisy a Donald Duck yn dal dwylo.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 D23 DISNEY LEGEND - CLARENCE NASH adalwyd 19 Hyfref 2018
- ↑ Blitz, Marcia (1979). Donald Duck. New York: Harmony Books. p. 19. ISBN 0-517-52961-0.
- ↑ Clarence Nash ar IMDb adalwyd 19 Hyfref 2018
- ↑ "What's My Line". YouTube. Cyrchwyd 2018-10-19.
- ↑ "50-Year Career : Clarence Nash, Donald Duck's Voice, Dies". LA Times. 1985-02-21. Cyrchwyd 2018-10-19.
- ↑ Find a grave Clarence Nash adalwyd 19 Hyfref 2018