ChiBemba
Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith fyw |
---|---|
Math | Sabi |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-2 | bem |
cod ISO 639-3 | bem |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Mae Bemba (a elwir hefyd yn chiBemba, Wemba ac ichiBemba, efallai Bembaeg yn Gymraeg) yn iaith Bantu ac yn iaith y bobl (Ba)Bemba.
Fe'i siaredir yn bennaf yng Ngweriniaeth Zambia a hefyd yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Tansanïa a Botswana. Amcangyfrifir bod dros dair miliwn o bobl yn Zambia yn siarad Bemba fel eu mamiaith neu wedi ei dysgu fel iaith dramor. Math o lingua franca yn ninasoedd Zambia yw Bemba ac, yn ôl Ethnologue, mae ganddi statws cymdeithasol uwch yn Zambia nag ieithoedd eraill, ac eithrio Saesneg.
Cymdeithaseg yr iaith
[golygu | golygu cod]Rhaid deall Bemba fel "iaith lefel uchel" y mae grŵp cyfan o ieithoedd neu dafodieithoedd wedi'i chynnwys oddi tani. Yn eu plith mae'r prif dafodieithoedd Ngoma, Lomotua, Nwesi a Lembue, ond hefyd y rhai isradd fel Aushi, Bisa, ChiMwanga, Chishinga, Kunda, Lala, Lamba, Luunda, Tabwa ac eraill. (Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr; mae pob ffynhonnell yn rhifo neu’n hepgor tafodieithoedd eraill.)
Datblygodd creole Bemba (ChiKoppabeluti) yn Copperbelt Zambia yn y 1940au.
Ysgrifennodd yr awdur straeon byrion o Zambia, y nofelydd a'r bardd Stephen Andrea Mpashi (g. 1920) y rhan fwyaf o'i weithiau yn Bemba.
Ubuntu
[golygu | golygu cod]Daliodd Bemba sylw byd GNU/Linux diolch i ddosbarthiad Ubuntu, y mae ei ynganiad yn cyfateb i air sydd yn Bemba yn golygu "dynoliaeth tuag at eraill". Daeth y gair, sy'n golygu 'dynoliaeth' yma i amlywgrwydd fel rhan o gysyniadau ar gyd-fyw a chydreoli cymdeithas. Cyfieithir weithiau fel "Rydwyf i oherwydd rydym ni" (hefyd "Rwyf i oherwydd rwyt ti"),[1]
Cyd-destun ieithyddol
[golygu | golygu cod]Mae Bemba yn weddol agos at Shona, iaith fwyafrifol Zimbabwe. Bydd siaradwr Bemba bob amser yn deall sgwrs yn Shona: mae traws-ddealltwriaeth tua 80%-95%, ac yn gyffredinol, dim ond ychydig o amrywiadau geirfa na ddeellir.
Mae Bemba yn un o'r ieithoedd a siaredir yn Zambia, fel Chichewa (Nyanja) a siaredir gan lawer o bobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol, ac mae'n un o saith iaith ranbarthol gydnabyddedig Zambia. Codwyd arlywydd cyntaf Zambia, Kenneth Kaunda, er Malawiad o dras, mewn cymuned Bemba ei hiaith, ac mae dau o bedwar arlywydd Zambia ers hynny wedi bod yn siaradwyr Bemba. Yn y blynyddoedd ar ôl i blaid yr MMD (Movement for Multi-Party Democracy) ddod i rym yn 1991, fe'i cyhuddwyd droeon o hyrwyddo Bemba dros ieithoedd rhanbarthol eraill y wlad.[2] Serch cryfder cymharol Bemba, lingua franca prifddinas Zambia, Lusaka, ynw tafodiaiaith neu iaith o'r teulu Bantu arall, Botatwe, sef Tonga.
Ymadroddion defnyddiol
[golygu | golygu cod]Cymraeg | Bemba |
---|---|
Helo, siwmae | Muli Shani |
Rwy'n (teimlo'n) dda | Bwino |
Bore da | Mwashebukeni |
Fy enw i yw ... | Ishina lyandi ni... |
Yr un peth i ti | Ea mukwai |
Diolch | Natotela |
Dynoliaeth | kubuntu |
Ie | ee |
Na | awe |
Hwyl fawr | Shaleenipo |
Natur yr iaith
[golygu | golygu cod]Mae llawer o brif nodweddion gramadeg Bemba yn weddol nodweddiadol o ieithoedd Bantw: mae'n gyfluddol, yn dibynnu'n bennaf ar rhagddodiaid, mae ganddi system o nifer o ddosbarthiadau enwau, set fawr o agweddau geiriol ac amserau, ychydig iawn o ansoddeiriau gwirioneddol, ac, fel Saesneg , mae ganddo drefn geiriau sy'n destun-berf-gwrthrych, SVO (Subject-Verb-Object).
Orgraff
[golygu | golygu cod]Mae wedi dod yn fwyfwy cyffredin i ddefnyddio 'c' yn lle 'ch'. Yn yr un modd ag ieithoedd Bantw eraill, wrth ychwanegu atodiad, gall cyfuniadau o lafariaid gyfangu a gall cytseiniaid newid. Er enghraifft, mae 'aa' yn newid i newid hir 'a', 'ae' ac 'ai' i 'e', ac 'ao' ac 'au' yn newid i 'o' (mewn achosion eraill, mae 'y' yn a ddefnyddir yn aml i wahanu cyfuniadau eraill o lafariaid). Mae'r trwynol 'n' yn newid i 'm' cyn 'b' neu 'p', ac yn cael ei ynganu ŋ cyn 'k' neu 'g'; ar ôl 'n', mae 'l' yn newid i 'd'. Bydd y rheolau hyn i gyd ymhlyg yn y tablau a roddir isod.
Fel llawer o ieithoedd Bantw, mae Bemba yn donyddol, gyda dwy dôn; fodd bynnag, effaith gyfyngedig a gaiff tôn ar ystyr gan fod nifer y geiriau a fyddai fel arall yn cael eu drysu yn fach. Mae straen yn tueddu i ddisgyn ar y rhagddodiad, pan fydd yn bodoli, a gall arwain at wahaniaethau cynnil o ran ystyr.
Mae'r system orgraffyddol a ddefnyddir yn gyffredin, a gyflwynwyd yn wreiddiol gan Edward Steere, yn eithaf ffonetig. Rhoddir ei lythrennau, gyda'u gwerthoedd ffonetig bras, isod.
a | b | c | e | f | g | i | j | k | l | m |
n | ŋ | o | p | s | sh | t | u | v | w | y |
Safonni ar draws ieithoedd
[golygu | golygu cod]Ceid ymdrech i greu orgraff safonnol ar gyfer ieithoedd Bantu canolbarth Affrica gan gynnwys iciBemba.Ymgymerwyd â'r gwaith ar ddechrau 21g gan Centre for Advanced Studies of African Society (CASAS) sydd nawr o dan adain Adran Ieithyddiaeth Prifysgol Western Cape. Defnyddwyd arbenigwyr ddarlithwyr ieithyddiaeth mewn prifysgolion yn Ne Affrica, Malawi, Mozambique, Zimbabwe a Zambia. Lluniwyd un system sillafu ar gyfer ieithoedd trawsffiniol a geir yn y gwledydd hyn. Ieithoedd fel ciNyanja, ciCewa, ciNsenga, ciNgoni, ciNsenga, eLomwe, eMakhuwa, ciYao, ciTumbuka, ciSenga, iciBemba, kiKaonde, ciLunda a ciLuvale.[4]
Gramadeg
[golygu | golygu cod]Mae llawer o brif nodweddion gramadeg Bemba yn weddol nodweddiadol o ieithoedd Bantw: mae'n gyfluddol, yn dibynnu'n bennaf ar rhagddodiaid, mae ganddi system o nifer o ddosbarthiadau enwau, set fawr o agweddau geiriol ac amserau, ychydig iawn o ansoddeiriau gwirioneddol, ac, fel Saesneg , mae ganddo drefn geiriau sy'n destun-berf-gwrthrych.
Bemba heddiw
[golygu | golygu cod]Ers ennill annibyniaeth oddi ar y Deyrnas Unedig yn 1966, mae llywodraeth Zambia wedi gweithredu'n polisi addysg cyfrwng Saesneg ar draws y wlad. Mae methiannau hyn wedi eu cydnabod i rhyw raddau erbyn 21g a'r sefyllfa mewn gwirionedd oedd bod y gwersi yn y Saesneg a'r siarad anffurfiol yn yr iaith frodorol leol gryfaf. Mae llywodraeth Zambia yn gwbl ymwybodol o ba mor anodd y gall materion iaith fod mewn addysg ac felly mae wedi darparu canllawiau polisi ar yr iaith addysgu mewn perthynas â'r ieithoedd lleol Zambia (MESVTEE, dogfen bolisi 2006). Mae archwiliad manwl o dirwedd ieithyddol Zambia yn datgelu bod saith iaith graidd yn dominyddu ei deg talaith.
Mae'r saith iaith graidd gyda thaleithiau cyfatebol yn cael eu siarad ynddynt fel a ganlyn: Bemba (Luapula, Gogledd, Copperbelt a rhannau o daleithiau Muchinga), Nyanja (Lusaka a Thaleithiau Dwyreiniol), Tonga (talaith Ddeheuol), Lozi (talaith Orllewinol), Lunda, Kaonde a Lovale (taleithiau Gogledd-Orllewinol).[5]
Statws a defnyddoldeb fel lingua franca
[golygu | golygu cod]Yn ôl cyfrifiad 2000, ieithoedd mwayf poblog y wlad oedd Bemba (siaradeir gan 35% unai fel iaith gyntaf neu ail); Nyanja (37%), Tonga (25%) a Lozi (18%).[6]
Mae data’r cyfrifiad yn dangos bod “19.7% o’r boblogaeth wledig yn ei siarad tra bod 48.5% o’r trigolion trefol yn ei defnyddio i gyfathrebu”. Wedi'i hystyried ymhlith y saith clwstwr iaith lleol mawr sef Bemba, Tonga, Lozi, Nyanja, Kaonde, Lunda a Luvale, daw Bemba i'r amlwg fel y lingua franca mwyaf blaenllaw yn Zambia. Mae ganddi gyfanswm cyfun o ymhell dros “68% o’r poblogaethau gwledig a threfol yn ei defnyddio fel iaith cyfathrebu” (ZCSO, 2000:42). Oherwydd hyn, mae’r iaith Bemba wedi’i haeru’n rym ieithyddol pwerus o gyfrannau “traws-lwyth”.
Rhagdybia un awdur bod y mwyafrif o Zambiaid, waeth beth fo'u cysylltiad llwythol, yn ymddangos yn awyddus i ddefnyddio Bemba fel arf ar gyfer eu hanghenion cyfathrebu. Sylwodd y ZCSO (2000) ar y duedd hon, gan adleisio Kashoki (1990) i bob pwrpas. Sefydlodd y ZCSO hefyd fod “20.2 % o’r boblogaeth genedlaethol yn siarad [Bemba] fel ail iaith” (2000:46). Mae ystadegau hefyd yn awgrymu bod 23.5% o Zambiaid yn hawlio Bemba fel eu hail iaith. Ar ôl Saesneg, mae hyn yn gwneud Bemba yr “ail iaith a siaredir fwyaf yn y wlad” (ZCSO, 42; 46).
Yn nhalaith y Copperbelt lle cynhaliais ran o'r astudiaeth yn cynnwys diwylliannau o bob rhan o Zambia. Mae Bemba yn iaith ddominyddol yno sy'n golygu bod mwy o bobl yn siarad yr iaith Bemba wrth iddynt ryngweithio'n gymdeithasol yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, er nad ydynt o darddiad Bemba. Mae myfyrwyr hefyd yn siarad Bemba yn yr ysgol ac oddi ar yr ysgol. Mae ysgolhaig ieithyddol o Zambia yn atgyfnerthu’r farn hon trwy haeru bod Bemba ar y Copperbelt mor amlwg ar y gwregys Copr fel bod plant sy’n cael eu geni a’u magu yno yn tueddu i dyfu i fyny yn ei siarad fel eu hiaith gyntaf neu eu mamiaith. Beth bynnag yw tarddiad ethnig y rhieni, mae'r plant hyn yn tyfu i hawlio'r iaith hon fel eu mamiaith (Kashoki, 1990: 43).[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The question: What does ubuntu really mean?". TheGuardian.com. 28 September 2006.
- ↑ "UNHCR | Refworld | Chronology for Bemba in Zambia", http://www.unhcr.org/refworld/topic,463af2212,469f2faa2,469f38f7c,0.html. Retrieved 3 August 2011.
- ↑ Chimuka 1977.
- ↑ "Monograph Series No. 11, Year 2002; A Unified Standard Orthography for South-Central African Languages: Malawi, Mozambique and Zambia". Gwefan Prifysgol y Western Cape. 22 Tachwedd 2022.
- ↑ "About Bemba And English". Blog MwelwaUnisaPhD. Cyrchwyd 29 Mehefin 2023.
- ↑ "Zambia - Census of Population and Housing 2000". catalog.ihsn.org. Cyrchwyd 2020-05-25.
- ↑ "About Bemba And English". Blog MwelwaUnisaPhD. Cyrchwyd 29 Mehefin 2023.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Dosbarthiad Bemba (Saesneg)
- About Bemba And English erthygl
- Learn to Speak Bemba Lesson 1: Greetings fideo ar Youtube
- Cyhoeddiadau ar ieithyddeg a safonni orgraff ieithoedd Affrica gan CASAS nawr ar wefan Prifysgol y Western Cape, De Affrica