Charles Messier
Gwedd
Charles Messier | |
---|---|
Ganwyd | 26 Mehefin 1730 Badonviller |
Bu farw | 12 Ebrill 1817 Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | seryddwr |
Adnabyddus am | Messier object |
Priod | Mrs Charles Messier |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur |
llofnod | |
Seryddwr o Ffrainc oedd Charles Messier (26 Mehefin 1730 – 12 Ebrill 1817).[1][2]
Yn y flwyddyn 1760 dechreuodd wneud rhestr o wrthrychau seryddol y tybiai eu bod yn nebulae, neu nifylau. Y canlyniad oedd Catalog Messier, sy'n rhestru 109 o wrthrychau disglair anserennol yn y gofod, a gyhoeddwyd yn 1784–86. Rhoddwyd i'r gwrthrychau hynny rif a ragflaenir gan y llythyren M, er enghraifft y galaethau M101 a M31 (Galaeth Fawr Andromeda). Gwyddom heddiw fod y mwyafrif o wrthrychau Messier yn alaethau a chlystyrau serennol ac mai dim ond canran isel sy'n nifylau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Berry, Arthur (1961). A Short History of Astronomy from the Earliest Times Through the Nineteenth Century. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. Tudalennau 336–337. (Yn Saesneg.)
- ↑ Frommert, Hartmut (2007). "Messier, Charles". In Hockey, Thomas; Trimble, Virginia; Williams, Thomas R. (gol.). Biographical Encyclopedia of Astronomers. Efrog Newydd: Springer Publishing. ISBN 978-1-4419-9917-7. Argraffiad cyntaf. Tud. 773–774. (Yn Saesneg.)