[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Cassandra

Oddi ar Wicipedia
Cassandra
GanwydUnknown Edit this on Wikidata
Caerdroea Edit this on Wikidata
Bu farwUnknown Edit this on Wikidata
Mycenae Edit this on Wikidata
TadPriam Edit this on Wikidata
MamHecuba Edit this on Wikidata
PartnerAgamemnon, Coroebus, Othryoneus Edit this on Wikidata
PlantTeledamus, Pelops Edit this on Wikidata
Cassandra; llun gan Evelyn De Morgan (tua 1898)

Cymeriad ym Mytholeg Roeg oedd Cassandra (Groeg: Kασσάνδρα), hefyd Alexandra. Roedd yn ferch i Priam, brenin Caerdroea a'i wraig Hecuba.

Roedd ganddi'r ddawn o broffwydo'r dyfodol. Yn ôl un fersiwn o'r chwedl, treuliodd hi a'i brawd Helenus moson yn nheml Apollo, a llyfodd y nadroedd yn y deml ei chlustiau yn lân, fel y gallai glywed y dyfodol. Syrthiodd Apollo mewn cariad a hi, ond pan na ddychwelodd Cassandra ei gariad, rhoddodd felltith arni: y byddai bob amser yn proffwydo'r dyfodol yn gywir, ond na fyddai neb byth yn ei chredu.

Proffwydodd Cassandra ddinistr Caerdoea yn Rhyfel Caerdroea, a rhybuddiodd am ystryw Ceffyl Pren Caerdroea, ond ni chredwyd hi a syrthiodd y ddinas. Credai ei theulu ei bod yn orffwyll. Wedi cwymp y ddinas, rheibiwyd hi gan Aiax y Lleiaf; yna cymerodd Agamemnon hi yn ordderch. Llofruddiwyd Cassandra ac Agamemnon gan Clytemnestra, gwriag Agamemnon, a chariad Clytemnestra, Aegisthus, wedi i Agamemnon anwybyddu rhybudd Cassandra.