[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Connie Francis

Oddi ar Wicipedia
Connie Francis
FfugenwConnie Francis Edit this on Wikidata
GanwydConcetta Rosa Maria Franconero Edit this on Wikidata
12 Rhagfyr 1938, 12 Rhagfyr 1937 Edit this on Wikidata
Newark Edit this on Wikidata
Label recordioMGM Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Belleville High School
  • Newark Arts High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, actor, actor teledu, cyfansoddwr caneuon, actor ffilm, awdur Edit this on Wikidata
SwyddLlysgennad Ewyllus Da UNICEF Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddullcerddoriaeth bop, draddodiadol, roc a rôl, pop gwlad, jazz, canu gwlad Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.conniefrancis.com Edit this on Wikidata
llofnod

Cantores o'r Unol Daleithiau yw Connie Francis (Concetta Maria Franconero; ganed 12 Rhagfyr 1938) sy'n nodedig am ganu sawl math o gerddoriaeth boblogaidd ac mewn sawl iaith. Bu ei gyrfa ar ei hanterth yn y 1950au a'r 1960au, pryd rhyddhaodd nifer fawr o albymau a senglau o ganu gwerin a thraddodiadol, roc a rôl, baledi sentimental, a chaneuon difyr. Bu hefyd yn recordio caneuon gwlad, jazz, schlager, emynau ysbrydol, a detholion o sioeau cerdd Broadway.

Ganed yn Newark, New Jersey, i deulu o Americanwyr Eidalaidd yn y dosbarth gweithiol. Dysgodd i ganu ac i ganu'r acordion ac ymddangosodd ar y rhaglen deledu Talent Scouts yn 1950. Mabwysiadodd yr enw llwyfan Connie Francis a pherfformiodd ar sioe deledu amrywiaethol i blant am bedair blynedd. Cafodd gontract gydag MGM Records yn 1955, ond methiannau a fu ei senglau cyntaf. Cafodd lwyddiant yn 1957 gyda'r gân "Who's Sorry Now" ac ymddangosodd ar y rhaglen Bandstand. Yn sgil llwyddiant Connie Francis Sings Italian Favorites (1959), recordiodd sawl albwm arall o ganeuon traddodiadol a oedd yn perthyn i wahanol grwpiau ethnig. Ar anterth ei gyrfa ymddangosodd Francis ar deledu yn aml ac actiodd mewn sawl ffilm i blant yn eu harddegau, megis Where the Boys Are (1960). Dirywiodd lwyddiannau'r eilunod Americanaidd ifainc yng nghanol y 1960au o ganlyniad i ddyfodiad y Beatles a bandiau roc eraill o Loegr, a phenderfynodd Francis gael seibiant yn ei gyrfa.[1]

Dychwelodd Francis at y llwyfan a'r stiwdio yn nechrau'r 1970au. Wedi perfformiad yn Long Island yn 1974, cafodd ei threisio yn ei hystafell gwesty gan dresmaswr, ac oherwydd y trawma trodd ei chefn ar fyd adloniant unwaith eto. Llofruddiwyd ei brawd hi gan y Maffia yn 1981, a threuliodd hi ryw ddeng mlynedd yn derbyn triniaeth seiciatrig i ymdopi â thrychinebau ei bywyd personol. Er gwaethaf hynny, dychwelodd at berfformio a recordio cerddoriaeth. Cyhoeddwyd dau hunangofiant ganddi, Who's Sorry Now? yn 1984 ac Among My Souvenirs yn 2017.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Connie Francis. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Rhagfyr 2019.